Bydd menter ynni cymunedol newydd yn dechrau ar ei gwaith yr wythnos hon drwy gynnal sesiynau taro heibio yn ardaloedd Rhyd-ddu, Waunfawr a Caeathro yng Ngwynedd. Bwriad y sesiynau yw hysbysu’r cyhoedd ynghylch amcanion y fenter ac i drafod manteision mentrau ynni cymunedol gyda’r gymuned leol. Bydd Gwyrfai Gwyrdd yn cynnal sesiynau taro heibio’r wythnos hon yn y lleoliadau canlynol:
- Dydd Llun 8 Gorffennaf – Cwellyn Arms, Rhyd-ddu, 4:00yh nes 7:30yh
- Dydd Mawrth 9 Gorffennaf – Y Ganolfan, Waunfawr, 4:00yh nes 7:30yh
- Dydd Mercher 10 Gorffennaf – Canolfan y Capel, Caeathro, 4:00yh nes 7:30yh
- Dydd Sadwrn 13 Gorffennaf – Gŵyl Haf Antur, Waunfawr, 12:00yh nes 4:00yh
Bydd yna hefyd gyfarfod cyhoeddus a gweithdy agored i bawb yn cael ei gynnal ar nos Iau, 18 Gorffennaf. Bydd y cyfarfod yn rhedeg rhwng 7:00yh nes 9:00yh. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch y prosiect neu os hoffech ganfod mwy o wybodaeth am y cynlluniau, mae modd cysylltu â Dafydd Davies drwy e-bostio dafydd.davies@gwyrfaigwyrdd.cymru.