Mae Mark Drakeford wedi lansio Cynllun Statws Coedwig Genedlaethol Cymru bydd yn ceisio sicrhau ffordd i goetiroedd nad ydynt yn eiddio uniongyrchol Llywodraeth Cymru i ddod yn rhan o’r Goedwig Genedlaethol.
Bydd y darnau hyn o dir yn cynnwys coetiroedd trefol bychan eu maint, rhai dan berchnogaeth gymunedol, coedwigoedd ar dir preifat a ffermydd ynghyd a darnau eang o dir sydd yn eiddo awdurdodau lleol ac elusennau. Mae’r cynllun hefyd yn bwriadu cynnwys coetiroedd sy’n cynhyrchu pren at ddibenion masnachol.
Gall unrhyw un sydd yn eiddo ar neu’n rheoli tir o’r fath sydd wedi ei reoli’n dda ac yn gymwys i fod yn rhan o’r cynllun wneud cais i ymuno. Yn benodol, mae’r cynllun yn edrych am goetiroedd sydd yn bodloni’r gofynion canlynol:
Coetiroedd o ansawdd uchel, sydd yn cael eu rheoli’n dda
Coetiroedd sydd yn hygyrch ac yn sicrhau mynediad da i bobl eu defnyddio
Coetiroedd sydd yn amrywiol eu rhywogaethau a’u plannu
Dywedodd Mark Drakeford am y cynllun:
‘Rydym yn lwcus fod gennym gymaint o goetiroedd sy’n ffynnu ledled Cymru. Rydym am eu gwarchod a’u helpu i ffynnu, gan gynyddu eu bioamrywiaeth a chryfhau eu hecosystemau.
Mae manteision clir i wneud hynny – agor mwy o fannau awyr agored, sy’n dda ar gyfer ein lles, yn ogystal â chreu cyfleoedd swyddi gwyrdd newydd.
Mae creu Coedwig Genedlaethol Cymru yn rhan allweddol o’r camau gweithredu y mae’n rhaid inni eu cymryd nawr er mwyn sicrhau ein bod ar y llwybr iawn i ddod yn genedl sero net erbyn 2050.’
Cafodd y cynllun Coedwig Cenedlaethol ei lansio yn 2020, gyda’r bwriad o sicrhau dyfodol choetiroedd presennol ac ehangu’r nifer o goed oedd yn cael eu plannu yng Nghymru er mwyn creu rhwydwaith o goedwigoedd ar gyfer pobl Cymru.
Mae modd gweld amlinelliad o’r hyn sy’n ofynnol ar gyfer ymuno a’r cam nesaf hwn o’r cynllun ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru.