Maniffestos Senedd 2026

April 2026 | Cymunedau a 'lle', Polisi gwledig, Sylw

Gyda etholiad  y Senedd yn nesáu’n gyflym ac ymgyrchu bellach ar y gweill, mae’r pleidiau gwleidyddol wedi cyhoeddi eu maniffestos yn nodi eu blaenoriaethau cyn y diwrnod pleidleisio ar y 7ed o Fai 2026.

Isod ceir dolenni hawdd eu cyrraedd i faniffestos y pleidiau gwleidyddol hynny sydd, yn seiliedig ar bleidleisio diweddar, fwyaf tebygol o sicrhau cynrychiolaeth yn y Senedd nesaf.

Mae pob maniffesto yn cynnwys polisïau sy’n berthnasol i Gymru wledig, boed yn canolbwyntio’n uniongyrchol ar gymunedau gwledig, ffermio a defnydd tir, neu’n mynd i’r afael â materion economaidd a gwasanaethau cyhoeddus ehangach sy’n effeithio’n sylweddol ar ardaloedd gwledig.

Mae’r drefn isod yn seiliedig ar ddyraniad seddi presennol yn y Senedd. Mae pob plaid yn mynd i’r afael â materion gwledig i raddau amrywiol ac mewn cyd-destunau gwahanol.

Llafur Cymru

Mae materion gwledig yn cael eu crybwyll mewn nifer o benodau yn y maniffesto. Un enghraifft yw: “tynnu sylw at Gymru wledig gyda Chynllun Datblygu Economaidd Gwledig newydd a phrosesau cryfach ar gyfer ystyried penderfyniadau trwy lens wledig.”

I ddarllen y maniffesto yn llawn ewch i: Manifesto 2026 – Llafur Cymru

Maniffesto Senedd Plaid Cymru 

Mae’r maniffesto yn nodi nifer o bolisïau sy’n berthnasol yn benodol i gymunedau gwledig. Un enghraifft yw’r “fargen newydd i Gymru wledig” a grybwyllir. Mae’r polisi’n mynd ymlaen i ddatgan yr angen i “sicrhau prawf gwledig cadarn ar gyfer pob cynllun gwariant a rhaglen bolisi ar sail statudol.”

I ddarllen y maniffesto yn llawn ewch i: Manifesto 2026 – Plaid Cymru

Plaid Geidwadol Cymru – Maniffesto’r Senedd

Yn ogystal â’u prif faniffesto, mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi cyhoeddi maniffesto sy’n canolbwyntio’n benodol ar Gymru wledig. Disgrifir hwn fel un sy’n “gosod cynllun cynhwysfawr i gefnogi ffermwyr, cryfhau cymunedau gwledig a thyfu’r economi wledig.” Gellir dod o hyd i’r ddolen i’r maniffesto penodol i Gymru wledig yma: Plaid Geidwadol Cymru – Lawnsiad Cynllun Cymru Wledig

I ddarllen y maniffesto yn llawn ewch i: Manifesto 2026 – Plaid Geidwadol Cymru

Reform UK

Mae Reform UK yn tynnu sylw at nifer o bolisïau “amaethyddiaeth a’r cefn gwlad” o “ddiwygiad y cynllun ffermio cynaliadwy” hyd at “brentisiaethau yng Nghymru wledig.”

I ddarllen y maniffesto yn llawn ewch i: Manifesto 2026 – Reform UK

Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

Mae materion gwledig yn cael eu cynnwys o gynyddu mynediad band eang mewn “cymunedau gwledig” hyd at “fynediad gwledig at wasanaethau.”

I ddarllen y maniffesto yn llawn ewch i: Manifesto 2026 – Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

Y Blaid Werdd

Mae maniffesto’r Blaid Werdd yn crybwyll ardaloedd gwledig yng nghyd-destun “bwyd, ffermio ac amaethyddiaeth” yn ogystal â’r cyd-destun cymdeithasol ehangach megis “ysgolion gwledig bach.”

I ddarllen y maniffesto yn llawn ewch i: Manifesto 2026 – Y Blaid Werdd

 

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This