Llywodraeth Cymru’n cyhoeddi £10 miliwn i helpu cymunedau Cymru i leihau biliau ynni

March 2026 | Sylw

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi trydedd rownd Cynllun Grant Cyfalaf Ynni Cymru ar gyfer 2026–27, sy’n agor i geisiadau y mis hwn.

Yn ôl Llywodraeth Cymru mae’r cynllun yn defnyddio Systemau Ynni Lleol Clyfar, gan helpu cymunedau i ddefnyddio ynni glân i leihau costau, creu swyddi ac adeiladu seilwaith lleol cryfach.

Gall hyn gynnwys gosod paneli solar, pympiau gwres, mannau gwefru cerbydau trydan a batris storio, ac mae’n agored i sefydliadau ynni cymunedol, mentrau cymdeithasol, cyrff sector cyhoeddus a busnesau bach a chanolig.

Mae’r ddwy rownd flaenorol o gyllid drwy Ynni Cymru wedi cefnogi 78 o brosiectau ledled Cymru drwy fuddsoddiadau gwerth £22.9 miliwn.

Mewn datganiad, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans:

“Bydd y buddsoddiad £10 miliwn hwn yn caniatáu i gymunedau reoli eu hynni eu hunain yn y dyfodol. O ganolfannau hamdden yn y ddinas i neuaddau cymunedol gwledig, mae systemau ynni lleol clyfar yn lleihau biliau, yn lleihau allyriadau ac yn diogelu gwasanaethau hanfodol.

Pan fydd y rownd hon o gyllid wedi agor, byddwn ni wedi buddsoddi cyfanswm o fwy na £32 miliwn mewn trawsnewid ynni cymunedol yng Nghymru, gan helpu mwy o gymunedau nag erioed i gynhyrchu eu hynni glân eu hunain. Mae ein buddsoddiad yn gwneud newidiadau gwirioneddol — gan wneud Cymru yn wyrddach, yn gryfach ac yn barod ar gyfer y dyfodol.”

Yn y datganiad fe roddodd Llywodraeth Cymru yr enghraifft o’r £150,000 o grant a dyfarnwyd i Boomerang, elusen o Gaerdydd, sy’n cefnogi ac yn atal digartrefedd, tlodi ac ynysu cymdeithasol, drwy’r cynllun y llynedd.

Maen nhw’n datgarboneiddio pedair uned ddiwydiannol drwy osod pympiau gwres ffynhonnell aer, batris storio a mannau gwefru cerbydau trydan sydd wedi’u cysylltu â system paneli solar presennol ar y to, ac maen nhw’n bwriadu pweru deg cynhwysydd llong wedi’u hailbwrpasu ag ynni glân.

Bydd y cynwysyddion yn ffurfio pentref cymunedol gyda chaffi, siopau elusen, ystafelloedd hyfforddi a mannau ar gyfer busnesau newydd.

Disgwylir i’r system ynni lleol clyfar sydd wedi’i chwblhau arbed 70% o gostau trydan i’r elusen ac mae eisoes wedi cael gwared ar gostau tanwydd ffosil o’r safle yn llwyr.

Dywedodd Sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol Boomerang Caerdydd, Paul Gwilym:

“Nid grant ynni yn unig yw Ynni Cymru, mae’n fuddsoddiad mewn gwydnwch cymunedol. Yn Boomerang Caerdydd rydyn ni wedi gweld â’n llygaid ein hunain sut mae costau ynni cynyddol yn rhoi pwysau enfawr ar elusennau a’r teuluoedd rydyn ni’n eu cefnogi.

Trwy fuddsoddi mewn seilwaith adnewyddadwy, rydyn ni’n lleihau ein gorbenion, yn diogelu gwasanaethau rheng flaen, ac yn ailfuddsoddi miloedd o bunnoedd bob mis yn ôl i gymorth cymunedol uniongyrchol.

Mae’r cyllid hwn yn cryfhau ein cynaliadwyedd hirdymor, yn cefnogi uchelgeisiau gwyrdd Cymru, ac yn sicrhau bod pob punt a arbedir ar gyfleustodau yn mynd yn ôl yn syth i helpu plant, teuluoedd ac unigolion sydd ein hangen fwyaf.”

I ddysgu mwy am y grantiau, a sut i wneud cais dilynwch y ddolen hon i wefan Llywodraeth Cymru.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This