Mae Llywodraeth Cymru wedi rhyddhau datganiad yn tynnu sylw at stori dyn byddar ac anabl o Bowys oedd yn methu a chael mynediad at fand eang na signal rhyngrwyd ffôn symudol yn ei gartref sydd bellach wedi derbyn cymorth i gysylltu â’r rhyngrwyd drwy raglen Llywodraeth Cymru.
Mae Mark yn byw mewn ardal hynod wledig, ac roedd diffyg mynediad at y we yn peri problemau sylweddol iddo o ddydd i ddydd. Er enghraifft, roedd y signal gwael yn golygu nad oedd yn gallu defnyddio Iaith Arwyddion Prydain yn effeithlon gyda dehonglwyr yn ystod galwadau fideo ar-lein.
Derbyniodd gymorth i osod lloeren band eang drwy Allwedd Band Eang Cymru, sef cynllun grantiau sy’n cael ei redeg gan Lywodraeth Cymru. Mae’r cynllun yn darparu cyllid i gefnogi’r gwaith o osod dulliau darparu band eang i gartrefi a busnesau yng Nghymru os nad ydynt yn gallu sicrhau cysylltiad gwe gyflym dros 30Mbps drwy unrhyw ddull arall.
Mewn datganiad, dywedodd Mark:
“Rwyf wedi mynd o ddim rhyngrwyd i sicrhau cyflymderau lawrlwytho o dros 350Mbps.
Rwyf bellach yn gallu cyfathrebu â’r gwaith a ffrindiau drwy neges destun, e-bost a galwadau fideo gan ddefnyddio Iaith Arwyddion Prydain. Mae’r cysylltiad cyflymach yn golygu bod Iaith Arwyddion Prydain yn llawer mwy real a hwylus. Gallaf nawr hefyd ffrydio rhaglenni gyda chapsiynau caeedig ar fy nyfeisiau.
Heb y grant, ni fyddai band eang gen i, rhoddodd yr hyder i mi fynd ati gyda chysylltiad newydd. Gall y gost fisol uwch ar gyfer band eang lloeren fod yn broblem, ond i mi mae’r dibynadwyedd mor bwysig ar gyfer cadw cysylltiadau a chyfathrebu.”
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans:
“Mae cynllun Allwedd Band Eang Cymru mor hanfodol i gymunedau ledled Cymru.
Nid yw cysylltedd band eang cyflym, dibynadwy bellach yn foethusrwydd – mae’n hanfodol ar gyfer gwaith, cyfathrebu a mynediad at wasanaethau. Rwy’n falch iawn fod Mark wedi gallu goresgyn y rhwystrau digidol a wynebodd a chael y cysylltedd sydd ei angen arno i gymryd rhan lawn mewn bywyd modern.
Dyma’n union beth oedd bwriad y cynllun, sicrhau nad oes neb yng Nghymru yn cael ei adael ar ôl yn ein cymdeithas ddigidol.”
Mae modd darganfod mwy am y cynllun hwn ynghyd a chynlluniau eraill tebyg, y meini prawf ar gyfer cymhwyso, a sut i wneud ceisiadau, drwy ddilyn y ddolen hon i dudalen ‘Band Eang yng Nghymru’ Llywodraeth Cymru bydd yn eich arwain at y cyngor sydd fwyaf perthnasol i chi.

