Yr wythnos diwethaf fe gyhoeddodd Jayne Bryant AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai fod Llywodraeth Cymru wedi sefydlu Comisiwn Asedau Cymunedol. Nod y comisiwn bydd edrych ar dir, adeiladau ac asedau naturiol Cymru, gan gynnwys canolfannau celf, llyfrgelloedd, amgueddfeydd, gofodau gwyrdd a chanolfannau hamdden er mwyn ystyried dyfodol adnoddau cymunedol o’r fath.
Daw’r comisiwn yn sgil argymhellion a wnaethpwyd gan Bwyllgor Llywodraeth Leol a Thai’r Senedd yn dilyn ymchwiliad ynghylch asedau cymunedol. Bydd ymchwil academaidd annibynnol a gweithdai rhanddeiliaid thematig yn cael eu cynnal gan Brifysgol Caerdydd o 24 Medi i wella dealltwriaeth, ynghyd ac edrych ar opsiynau modelau perchnogaeth a rheoli ar gyfer yr asedau hyn ac i ymgynghori ar ba drywydd i’w gymryd gydag asedau cymunedol yn y dyfodol. Cadeirydd y Comisiwn yw Gwyn Roberts o Galeri Caernarfon. Aelodau eraill y comisiwn yw:
Sara Nason, Prifysgol Bangor
Richard Baker, Llywodraeth Cymru
Andrew Charles, Llywodraeth Cymru
Chris Buchan, Llywodraeth Cymru
Neil Frow, Partneriaeth Cydwasanaethau’r GIG
Dominic Driver, Cyfoeth Naturiol Cymru
Lorna Cross, cynrychiolydd awdurdod lleol
Lyn Cadwallader, Un Llais Cymru
John Rose, Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol
Alun Jones, WCVA
Casey Edwards, CWMPAS
Chris Blake, Cymru Gynaliadwy
Meleri Davies, Partneriaeth Ogwen
Chris Cowcher, Plunkett Foundation
Adam Kennerley, Cymdeithas Ymddiriedolaethau Datblygu Cymru
Joanna Rees, Barcud
Jonathan Fearn, Cyngor Sir Caerfyrddin
Mae modd edrych ar gylch gorchwyl llawn y comisiwn drwy ddilyn y ddolen hon i wefan Ystadau Cymru.