Llywodraeth Cymru yn nodi ei blaenoriaethau ar gyfer yr hinsawdd, natur a chymunedau gwledig ledled Cymru

July 2026 | Natur a hinsawdd, Polisi gwledig

Mae’r Gweinidog dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd, Llyr Gruffydd AS, wedi nodi ei flaenoriaethau ar gyfer gweithredu ar yr hinsawdd, natur a chymunedau gwledig ledled Cymru.

  • £10 miliwn i adfer bioamrywiaeth, creu swyddi ac atgyfnerthu cysylltiadau cymunedau â’r amgylchedd naturiol.
  • Cynllun Hinsawdd a Natur Newydd i gyflawni sero net erbyn 2040 ac adfer natur yn sylweddol erbyn 2050.
  • Gwaith yn mynd rhagddo i sicrhau cyllideb amlflwyddyn ar gyfer y Cynllun Ffermio Cynaliadwy.

Bydd y Cynllun Hinsawdd a Natur yn nodi’r camau gweithredu i gyflawni sero net erbyn 2040 ac adfer natur yn sylweddol erbyn 2050. Bydd y cynllun yn sicrhau bod gweithredu ar hinsawdd a natur yn gyfrifoldebau ar lefel Cabinet ar draws pob portffolio, gan gynnwys tai, trafnidiaeth, iechyd a’r economi.

Mae’r camau gweithredu â blaenoriaeth yn cynnwys plannu coed ac adfer mawndiroedd, cyflawni’r Rhaglen Weithredu Genedlaethol Ar Fawndiroedd, a datblygu Fforwm Gwydnwch a Pharodrwydd Llifogydd newydd i Gymru i gydlynu dull cenedlaethol o ymdrin â llifogydd.

Bydd cynigion ar gyfer dyletswydd statudol newydd ar brawfesur gwledig hefyd yn cael eu cyflwyno, a bydd Strategaeth Datblygu Gwledig yn mynd i’r afael â thlodi ac yn creu cyfleoedd newydd ledled Cymru.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This