Fel rhan o’r Bil Amaethyddiaeth Cymru bydd Llywodraeth Cymru yn cynnig diwygiadau i Ddeddf Coedwigaeth 1967 bydd yn cael effaith ar Reoliadau Coedwigaeth (Cwympo Coed) 1979. Mae’r newidiadau yn golygu bydd yna amodau amgylcheddol pellach ar gyfer sicrhau trwydded torri coed ac yn golygu gellid diwygio, atal neu ddiddymu trwyddedau torri coed sydd yn barod yn weithredol. Ymddengys fod y newidiadau hyn yn digwydd yn unol gyda bwriad Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael a phroblemau amgylcheddol sy’n deillio o goedwigaeth, megis cynnydd mewn ffosffadau yn ein dyfrffyrdd, fel rhan o’r Bil Amaeth.
I ddysgu mwy am y newidiadau, ac i fynegi eich barn amdanynt fel rhan o’r ymgynghoriad, dilynwch y ddolen hon. Rhaid i bob ymateb gael ei gyflwyno erbyn 8 Medi 2023 i gael eu hystyried.