Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynllun grant cyfalaf newydd gwerth £10 miliwn er mwyn cynorthwyo datblygiad Systemau Ynni Lleol Clyfar (SLES) ar draws y wlad. Mae modd i sefydliadau ynni cymunedol, mentrau cymdeithasol, cyrff sector cyhoeddus a busnesau bach a chanolig wneud cais am y grant. Mae’r Llywodraeth am annog ymgeiswyr i ddatblygu prosiectau arloesol sydd yn ceisio cyfuno dulliau cynhyrchu a storio ynni ynghyd a datblygu’r seilwaith ynni sydd yn bodoli yn eu hardaloedd.
Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi ac Ynni:
‘Mae’r cynllun grant £10 miliwn hwn yn rhan ganolog o’n hymdrechion i ddatgarboneiddio ynni Cymru a sicrhau bod ein cymunedau’n profi manteision y pontio hwn. Gyda chostau ynni yn cyfrannu at yr argyfwng costau byw, gall y prosiectau hyn leihau’r angen am seilwaith ynni mawr a datblygu system ynni lleol fwy gwydn. Rwy’n annog partïon sydd â diddordeb i fanteisio ar y cyfle hwn a gwneud cais am y cyllid. Gyda’n gilydd, gallwn arwain y ffordd at greu Cymru wyrddach a thecach.’
Y bwriad yw y bydd y prosiectau sy’n derbyn cyllid yn helpu Llywodraeth Cymru i ddeall yn well y manteision sydd i gymunedau o brosiectau o’r fath gan helpu Ynni Cymru i fireinio systemau a gwella darpariaeth.
Sefydlwyd Ynni Cymru gan Lywodraeth Cymru yn 2023 gyda’r nod o sicrhau fod buddion cynhyrchu ynni yn aros yn lleol a hyrwyddo perchnogaeth leol o adnoddau ynni.
I wneud cais ac am ragor o wybodaeth ynghylch y cynllun grant hwn, dilynwch y ddolen hon er mwyn cofrestru ar gyfer gweminar arbennig fydd yn trafod y cynllun ar 12 Medi.