Mae Llywodraeth Cymru wedi galw ar y cyhoedd i ymateb i’w cynigion ar gyfer strategaeth ddiwydiannol i bren yng Nghymru. Dyma’r strategaeth gyntaf o’i fath i Lywodraeth Cymru geisio yn y maes, ac y maent yn awyddus i glywed barn y cyhoedd ynghylch eu bwriad i gynyddu’r pren sydd yn cael ei gynhyrchu yng Nghymru.
Honnai’r Llywodraeth fod y galw byd-eang am bren yn debygol o gynyddu pedair gwaith erbyn 2050, ac maent eisiau gweld Cymru yn elwa o’r twf hwn tra hefyd yn diogelu coedwigoedd a sicrhau fod y diwydiant pren yn un cynaliadwy. Drwy ganolbwyntio ar goed sy’n cynhyrchu pren at ddibenion hir dymor, megis adeiladu a dodrefn, dadleua’r Llywodraeth bod modd ‘dal’ carbon o’r awyr a’i gloi mewn pren am gyfnod hir. Mae’r ddogfen ymgynghori hefyd yn crybwyll buddion posib coedwigoedd i fyd natur, economi a chymunedau gwledig Cymru.
Mewn datganiad dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog sydd â chyfrifoldeb dros Newid Hinsawdd, Huw Irranca-Davies:
“Mae pren yn hanfodol er mwyn sicrhau Cymru gryfach, decach a gwyrddach. Mae’r sectorau coedwigaeth, pren ac adeiladu yn cynnig gyrfaoedd amrywiol, gan gynnwys swyddi gwyrdd â chyflog uchel, sydd hefyd yn ein helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.
Drwy weithio gyda diwydiant, gall Cymru fanteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd sy’n deillio o greu a gwerthu cynhyrchion coedwig o goedwigoedd adnewyddadwy, cynaliadwy sy’n cael eu rheoli’n gyfrifol.
Rydym am i’n coedwigoedd ddod â manteision economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol i bobl Cymru am ganrifoedd lawer i ddod. Dyna pam y byddwn yn annog pawb i ddweud eu dweud yn yr ymgynghoriad pwysig hwn.”
Dywedodd Jayne Bryant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai:
“Yn ogystal â’i gyfraniad cadarnhaol at hybu swyddi a thwf gwyrdd, mae pren hefyd yn cyfrannu’n uniongyrchol at ymrwymiad Llywodraeth Cymru i adeiladu mwy o gartrefi cynaliadwy a fforddiadwy o ansawdd uchel. Mae hefyd yn helpu ein huchelgais i gyrraedd Sero Net erbyn 2050.
Mae pren yn cynnig dewis arall carbon isel yn lle deunyddiau sy’n ymgorffori lefelau uchel o garbon, fel concrit. Ochr yn ochr â ffibr pren, mae hefyd yn cynnig cyfleoedd ar gyfer dulliau adeiladu sy’n defnyddio llai o garbon, datrysiadau paneli pren a gweithgynhyrchu oddi ar y safle.
Gellir adeiladu cartrefi ffrâm bren yn gyflymach hefyd, gan helpu i ddarparu cartrefi mwy gwydn, iach a chynaliadwy o ansawdd uchel i bobl yng Nghymru, gan gynnwys tai cymdeithasol.
Wrth inni weld mwy a mwy o alw am gartrefi cymdeithasol ffrâm bren carbon isel, rwy’n hynod falch o weld yr ymgynghoriad pwysig hwn yn cael ei lansio.”
Mae modd i’r rheini sydd am ymateb a darllen dogfen ymgynghori ynghylch cynlluniau’r Llywodraeth wneud hynny drwy ddilyn y ddolen hon.