Llywodraeth Cymru yn estyn y Grant Trawsnewid Trefi am ddwy flynedd arall

April 2025 | Polisi gwledig, Sylw, Tlodi gwledig

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi eu bod yn ymestyn y Grant Creu Lleoedd Trawsnewid Trefi am ddwy flynedd arall, gyda chyllideb o £26 miliwn ar gael i gefnogi canol trefi ar draws Cymru.

Bwriad y cynllun yw helpu adfywio canol trefi a strydoedd mawr trefi yng Nghymru. Lansiwyd y grant 2021 wedi cyfuno nifer o grantiau adfywio llai yn un grant oedd yn symlach i ymgeisio ar ei gyfer.

Yn ôl Llywodraeth Cymru mae’r grant yn cefnogi ystod eang o ymyraethau posib megis gwella eiddo masnachol, sicrhau mwy o fannau i fyw ynddyn nhw yng nghanol y dref a sicrhau mannau cyhoeddus o ansawdd gwell. Gall hefyd gynorthwyo i wneud canol trefi’n fwy gwyrdd neu helpu i sicrhau cyfleusterau hamdden fel parciau a mannau chwarae newydd.

Mae’r uchafswm sydd ar gael ar gyfer un cais wedi cynyddu o £250,000 i £300,000. Mae modd i brosiectau gael eu cyflenwi gan awdurdodau lleol neu gan randdeiliaid eraill megis cynghorau tref, Ardaloedd Gwella Busnes a sefydliadau ac unigolion yn y trydydd sector a’r sector preifat. Awdurdodau lleol sy’n gyfrifol am flaenoriaethu a phrosesu’r ceisiadau.

Mae Llywodraeth Cymru wedi tynnu sylw at sawl enghraifft o’r mannau y mae’r grant wedi cael effaith cadarnhaol hyd yma, ac wedi helpu dod ac eiddo gwag yn ôl i ddefnydd dydd i ddydd. Wedi buddsoddiad y grant mae’r hen Woolpack yng Nglyn-nedd bellach yn gartref i siop goffi gyda phedwar fflat un gwely uwchben. Mae’r Cantubury Arms yng Nghastell-nedd hefyd wedi ei ail-wneud ac mae bellach tair uned fasnachol ar y llawr gwaelod a phedwar fflat preswyl uwchben. Defnyddiodd Cyngor Gwynedd gyllid drwy’r rhaglen grant i osod byrddau gwybodaeth yng nghanol Bangor er mwyn hysbysebu’r cyhoedd ac ymwelwyr o’r hyn sydd gyda Bangor i’w gynnig.

Yn ei haraith i Gynhadledd Adfywio Cymru Gyfan ym mis Chwefror datganiad dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, Jayne Bryant, am y rhaglen:

‘Drwy fuddsoddi yng nghanol ein trefi a’n dinasoedd, rydyn ni nid yn unig yn gwella’r amgylchedd ffisegol ond hefyd yn meithrin twf economaidd a gwella ansawdd bywyd trigolion.

Mae rhoi pwrpas newydd i eiddo gwag, gan roi bywyd newydd ganol ein trefi a dinasoedd, yn ganolog i’n strategaeth adfywio yma yng Nghymru.

Mae parhau â’r rhaglen grantiau, gyda rhagor o gyllid a grantiau uwch, yn gwneud cyllid ar gyfer prosiectau adfywio yn fwy hygyrch, gan ein galluogi i adeiladu ar y llwyddiannau rydyn ni eisoes wedi’u sicrhau.’

I ddysgu mwy am y rhaglen, dilynwch y ddolen hon.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This