Llywodraeth Cymru yn ehangu cynllun grantiau Cymunedau Cymraeg Perthyn

October 2025 | Sylw

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi bydd y cynllun grantiau Perthyn, sy’n darparu cyllid i gefnogi cymunedau Cymraeg eu hiaith gyda nifer uchel o ail gartrefi, yn cynyddu’r arian sydd ar gael i gymunedau i £400,000 eleni. Hyd yma mae’r cynllun wedi dyfarnu 64 o grantiau i gymunedau ar draws Gwynedd, Conwy, Ynys Môn, Ceredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro ers 2022.

Un enghraifft o grŵp cymunedol sydd wedi elwa o’r rhaglen yw Bys a Bawd Pawb yn Llanrwst. Sefydlwyd Bys a Bawd Pawb fel Cymdeithas Budd Cymunedol wedi iddynt dderbyn cefnogaeth gan y cynllun Perthyn. Nod y fenter yw prynu siop sydd wedi bod yn gwasanaethu’r gymuned ers dros hanner canrif a’i throi yn ganolfan lenyddol Gymraeg bydd yn cynnig cyfleoedd gwaith a gwirfoddoli ynghyd a darparu llety fforddiadwy i bobl leol uwchben y siop.

Mewn datganiad i’r wasg gan Lywodraeth Cymru dywedodd Nia Clwyd Owen, Cynghorydd Llanrwst a Llanddoged a Chadeirydd Gweithgor Bys a Bawd Pawb:

“Heb gymorth y grant Perthyn, mae’n annhebygol y byddai Bys a Bawd Pawb yn y sefyllfa gadarnhaol y mae’r fenter gymunedol ynddi heddiw. Mae’r grant wedi bod yn sylfaen i ddatblygiad y fenter, gan alluogi’r grŵp i benodi ymgynghorydd i arwain ar y cynllun cyfranddaliadau. Roedd y gwaith a wnaed ganddi i godi ymwybyddiaeth o’r fenter yn amhrisiadwy.

Yn ogystal, defnyddiwyd y grant i gynnal cyfres o ddigwyddiadau yn Llanrwst, gan roi cyfle i’r gymuned leol ddysgu mwy am y fenter a’i chefnogi drwy fuddsoddi.

Mae’r llwyddiant hwn yn dyst i rym cymunedau pan roddir y gefnogaeth briodol iddynt. Hoffem ddiolch i’r rhaglen grant Perthyn am eu cefnogaeth, a’r gymuned am eu brwdfrydedd a’u hymrwymiad i greu newid cadarnhaol yn lleol.

Mae Hwb Penmachno hefyd wedi derbyn dyfarniad grant Perthyn, i helpu’r gymuned gydag elfennau cynnar o’u menter tai dan arweiniad y gymuned.”

Dywedodd Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg:

“Mae’r prosiectau ysbrydoledig hyn a arweinir gan y gymuned yn dangos pŵer gweithredu lleol i gryfhau cymunedau Cymraeg. Drwy ehangu cynllun grant Perthyn ledled Cymru, rydym yn rhoi cyfle i fwy o gymunedau gymryd rheolaeth o’u dyfodol o ran tai a sicrhau bod y Gymraeg yn parhau i fod wrth wraidd eu mentrau.”

Gweinyddir y cynllun gan Cwmpas ar ran Llywodraeth Cymru. Mae hyd at £10,000 ar gael i geisiadau llwyddiannus. Gallwch ganfod mwy o wybodaeth ynghyd a manylion ynghylch sut i wneud cais ar wefan Cwmpas. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw canol dydd 21 Tachwedd 2025.

 

 

 

 

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This