Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei bod wedi cymeradwyo Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol De-orllewin Cymru, bydd yn gweld buddsoddiad sylweddol yn ardaloedd awdurdodau lleol Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro ac Abertawe. Bydd y cynllun yn llywio buddsoddiad a datblygiad mewn trafnidiaeth hyd at 2030 gyda’r nod o wneud hi’n haws, yn fwy fforddiadwy ac yn fwy gwyrdd i bobl deithio ar draws y rhanbarth.
Fel rhan o’r cynllun bydd trafnidiaeth gyhoeddus, llwybrau cerdded a seiclo yn derbyn buddsoddiad er mwyn gwella cyd-gysylltedd cymunedau gyda’r gobaith o’i wneud yn haws i drigolion deithio mewn ffyrdd hwylus a llesol gan gefnogi economïau lleol ar yr un pryd.
Mae amcanion eraill y cynllun yn cynnwys:
- Gwella cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus rhwng trefi, dinasoedd ac ardaloedd gwledig
- Cefnogi datblygiad system metro ar gyfer De-orllewin Cymru bydd yn cysylltu gwasanaethau bws a thrên
- Annog mwy o opsiynau teithio cynaliadwy megis seiclo a cherdded
- Sicrhau fod cymunedau gwledig a trefol yn elwa’n gyfartal o well mynediad at swyddi, addysg a gwasanaethau
Datblygwyd y cynllun gan Gyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru sy’n gorff sy’n dod a’r pedwar awdurdod lleol a’r parciau cenedlaethol ynghyd. Cafwyd proses ymgynghori lle derbyniwyd 900 o ymatebion gan drigolion, busnesau a sefydliadau cymunedol lleol ynghylch cynllun drafft. Fe wnaeth yr adborth hwn lywio drafftio’r cynllun terfynol.
Bydd yna nawr broses o lunio ac addasu’r rhestr derfynol o gynlluniau bydd yn derbyn cyllid, a bydd y cynlluniau hyn yn cael eu cyhoeddi unwaith y byddent yn cael eu cadarnhau.
Mewn datganiad dywedodd y Cynghorydd Rob Stewart, Cadeirydd Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru:
“Mae’r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo ein Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol yn gam mawr ymlaen i Dde-orllewin Cymru.
Bydd y cynllun hwn yn helpu i wneud teithiau bob dydd yn haws, yn fwy fforddiadwy ac yn fwy cynaliadwy i breswylwyr, gan hefyd gefnogi busnesau a buddsoddiad newydd.”
Dywedodd y Cynghorydd Darren Price, Cadeirydd Is-bwyllgor Trafnidiaeth y Cyd-bwyllgor Corfforedig:
“Mae’r cynllun hwn wedi’i lunio gan bobl ardal De-orllewin Cymru.
Gwnaethom wrando’n astud ar breswylwyr, grwpiau cymunedol a busnesau drwy gydol yr ymgynghoriad, ac mae eu barn wedi chwarae rhan hanfodol wrth greu cynllun sy’n adlewyrchu blaenoriaethau lleol.”
Mae tair cynllun trafnidiaeth arall wedi eu cymeradwyo gan Lywodraeth Cymru hefyd. Gallwch ddysgu mwy am y cynlluniau drwy ddilyn y ddolen hon i ddatganiad Llywodraeth Cymru.

