Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi Wythnos Hinsawdd Cymru 2024

Mehefin 2024 | Polisi gwledig, Sylw

silhouette of wind turbines during sunset

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd Wythnos Hinsawdd Cymru yn dychwelyd rhwng 11 a 15 Tachwedd 2024 yn enw parhau’r drafodaeth gyhoeddus ynghylch sut y gallwn wynebu heriau newid hinsawdd yng Nghymru. Yn debyg i ddigwyddiad llynedd, prif weithgaredd yr wythnos yw cynhadledd rithiol 5 diwrnod lle bydd amrywiaeth o arbenigwyr, gwneuthurwyr polisi, academyddion a rhanddeiliaid amrywiol yn cymryd rhan mewn cyflwyniadau, darlithoedd a sgyrsiau panel i drafod yr hyn sydd ei angen er mwyn sicrhau dyfodol sydd yn barod ar gyfer newid hinsawdd.

Thema’r wythnos eleni yw ‘Creu Dyfodol Hinsawdd Gwydn’ a bydd y digwyddiad yn cyd-redeg ac uwchgynhadledd COP29 yn Baku, Azerbaijan. Bydd yr wythnos hefyd yn dilyn cyhoeddiad strategaeth gwytnwch hinsawdd Llywodraeth Cymru bydd yn amlinellu sut orau i gynllunio ar gyfer newid hinsawdd ar draws gwahanol sectorau.

Am ragor o wybodaeth am Wythnos Newid Hinsawdd Cymru, ynghyd a manylion pellach ynghylch sut y gallwch chi gymryd rhan, dilynwch y ddolen hon.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This