Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi safonau newydd ar gyfer llety gwyliau yng Nghymru

November 2025 | Sylw

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi bydd angen trwydded ar ddarparwyr llety gwyliau a bydd rhaid iddynt fodloni set o safonau sy’n dangos bod y llety yn addas ar gyfer ymwelwyr. Bydd y cynllun trwyddedu newydd yn berthnasol i lety hunangynhwysol, hunanarlwyo fel bythynnod gwyliau a fflatiau. Bydd angen i ddarparwyr fodloni safon ‘addasrwydd ar gyfer llety ymwelwyr’ i gael trwydded, a hynny drwy ddangos bod ganddynt dystysgrifau diogelwch nwy a thrydanol ac yswiriant, ynghyd â larymau mwg a charbon monocsid.

Mewn datganiad, dywedodd Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg:

“Mae ymwelwyr wrth wraidd y Bil hwn. Drwy roi sicrwydd iddynt fod llety ymwelwyr yng Nghymru yn bodloni’r safonau y byddent yn eu disgwyl, gallwn fagu hyder yn y diwydiant a chefnogi ein sector twristiaeth hanfodol hyd yn oed ymhellach.

Mae llawer o fusnesau eisoes yn gwneud y pethau cywir. Trwy ei gwneud yn ofynnol i bob busnes ddangos eu bod yn bodloni’r un safonau, rydym yn creu cystadleuaeth deg sy’n amddiffyn ymwelwyr a busnesau cyfrifol.”

Yn ôl Llywodraeth Cymru mae’r Bil Datblygu Twristiaeth a Rheoleiddio Llety Ymwelwyr (Cymru) yn caniatáu i Lywodraethau Cymru yn y dyfodol ymestyn trwyddedu i fathau eraill o lety.

 

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This