Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi partneriaeth newydd gyda OpenAI

Mehefin 2024 | Sylw

the open ai logo is displayed on a computer screen

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi eu bod wedi sefydlu partneriaeth gyda’r cwmni deallusrwydd artiffisial OpenAI, datblygwyr y rhaglen ChatGPT. Bwriad y bartneriaeth yn ôl Llywodraeth Cymru yw cynyddu’r defnydd dyddiol o’r Gymraeg. Fel rhan o’r cytundeb bydd y llywodraeth yn darparu data hyfforddi i Open AI er mwyn gwella’r modd y mae ChatGPT yn gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd y bartneriaeth yn golygu sefydlu archifau data agored ar gyfer y Gymraeg i gynorthwyo datblygwyr yn eu gwaith.

Mae’r cyhoeddiad yn dod fel rhan o ddatganiad ehangach yn y Senedd ar flaenoriaethau’r llywodraeth ynghylch yr iaith gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg Jeremy Miles. Gwêl Miles dechnolegau iaith newydd fel ‘llinyn arian’ sy’n rhedeg drwy holl waith Llywodraeth Cymru yn y maes.

Mewn datganiad, dywedodd Jeremy Miles:

‘Mae’r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd, ac mae dyletswydd ar bob un ohonom i’w diogelu a sicrhau ei bod yn tyfu ym mhob agwedd ar gymdeithas. Mwy o Gymraeg i fwy o bobl – dyna rwy eisiau ei weld, a bydd y blaenoriaethau rwy’n eu hamlinellu heddiw yn sicrhau ein bod ni ar y trywydd iawn i gyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg a chynyddu defnydd dyddiol o’r iaith erbyn 2050.

Mae pob un ohonom yn defnyddio technoleg mewn un ffordd neu’i gilydd, ac yn gynyddol, rydyn ni’n gweld AI yn cael ei ddefnyddio mewn mwy o sefyllfaoedd. Rwy’n edrych ymlaen i weld sut bydd y bartneriaeth ddata newydd gydag OpenAI yn arwain at wella sut mae technoleg AI yn gweithio yn Gymraeg. Drwy weithio gydag OpenAI yn y gorffennol, rydyn ni wedi gallu rhannu adnoddau iaith Gymraeg a chydrannau rydyn ni fel Llywodraeth Cymru wedi ariannu.’

Yn yr un datganiad dyfynnwyd Anna Makanju, Is-lywydd Materion Rhyngwladol OpenAI:

‘Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn bartner gwych wrth greu set ddata agored ar gyfer hyfforddi modelau iaith. Yn OpenAI, rydyn ni am i’n modelau ddeall cymaint o ieithoedd a diwylliannau â phosib, fel bod modd i gynifer o bobl â phosib eu defnyddio.

Ers i Lywodraeth Cymru gyhoeddi’r Cynllun gweithredu technoleg Cymraeg yn 2018, mae wedi ariannu, creu a gweithio ar nifer o’r elfennau digidol angenrheidiol i’r iaith.’

Ychwanegodd Jeremy Miles:

‘Rwy’n falch iawn o’r hyn yr ydym wedi’i gyflawni o dan y Cynllun gweithredu technoleg Cymraeg blaenorol, ond nid yw’r gwaith byth ar ben. Felly heddiw, rwy’n gwahodd pobl i gyflwyno gwybodaeth neu syniadau am ba ddatblygiadau technolegol fyddai’n eu helpu nhw i ddefnyddio mwy ar y Gymraeg, a’r hyn sydd angen digwydd i’w gwneud hi’n haws iddyn nhw ddefnyddio technoleg yn Gymraeg.’

Mae modd i’r cyhoedd gyflwyno eu syniadau a gwybodaeth, ynghyd a chanfod mwy o wybodaeth ynghylch amcanion y prosiect ar wefan Llywodraeth Cymru.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This