Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi paratoadau ar gyfer y gaeaf

October 2025 | Cymunedau a 'lle', Sylw, Tlodi gwledig

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynlluniau ar gyfer y gaeaf eleni, gydag ystod eang o fesurau penodol yn cael eu cymryd er mwyn sicrhau iechyd a diogelwch y cyhoedd.

Mewn datganiad, nododd y Llywodraeth fod y GIG wedi prynu brechlynnau ffliw’n ganolog am y tro cyntaf, yn enw gwella cyfraddau brechu a diogelu rhagor o bobl. Mae hawl bellach gan 99% o fferyllfeydd cymunedol i brofi a thrin dolur gwddf am ddim, heb angen i wneud apwyntiad gyda meddygfa. Mae hyn er mwyn ceisio lleihau’r pwysau ar feddygon teulu.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru hefyd fod buddsoddiad o £30 miliwn i sicrhau y gall mwy o bobl gael gofal gartref, gan ryddhau gofodau i gleifion yn yr ysbyty. Mae yna fuddsoddiad o £1 miliwn mewn offer hyfforddiant ar gyfer cartrefi gofal hefyd, mewn ymgais i leihau’r nifer o bobl hŷn sy’n cwympo ac wedyn angen triniaeth mewn ysbytai.

Mae cymorth hefyd i deuluoedd incwm isel i gadw eu cartrefi’n gynnes, gyda buddsoddiad o £30 miliwn yn y cynllun Cartrefi Clyd Nyth. Bydd yna hefyd £600,000 yn cael ei fuddsoddi i gefnogi lleoliadau croeso cynnes a £940,000 i gefnogi pobl sy’n cael trafferth gyda chostau bwyd.

Mewn datganiad dywedodd y Prif Weinidog, Eluned Morgan:

“Mae’r gaeaf yn gyfnod heriol i bobl, yn enwedig y rhai mwyaf agored i niwed, pan fydd ein gwasanaethau cyhoeddus yn wynebu’r pwysau mwyaf. Rydyn ni’n paratoi ar gyfer y gaeaf drwy gydol y flwyddyn, fel bod y gefnogaeth sydd ei hangen ar bobl yn ei lle cyn y misoedd oerach.

Dros y mis diwethaf, rydyn ni wedi gweld Cymru yn mynd o wynebu cyfnod o sychder i wynebu llifogydd, oherwydd tywydd sy’n fwyfwy eithafol ac anodd ei rag-weld. Fe wnaethom ymrwymo i wella mesurau amddiffyn rhag llifogydd ar gyfer 45,000 o gartrefi yn ystod tymor y Senedd hon – rydyn ni’n cyflawni’r addewid hwnnw diolch i lefelau buddsoddi mwy nag erioed.

Mae pawb yn haeddu cartref cynnes, ac rydyn ni’n gweithio i helpu pobl sy’n cael trafferth gyda chostau byw a biliau ynni, gan fuddsoddi dros £7bn rhwng 2022 a 2026 i leddfu’r pwysau ariannol ar aelwydydd, helpu i wneud y mwyaf o incwm a helpu i gadw mwy o arian ym mhocedi pobl.

Mae gan bob un ohonom ran i’w chwarae wrth gefnogi ein cymunedau yr adeg hon o’r flwyddyn. P’un a yw hynny’n sicrhau ein bod yn cael ein brechu, yn defnyddio ein Gwasanaeth Iechyd yn gyfrifol neu’n cadw golwg ar ein cymdogion oedrannus neu agored i niwed yn rheolaidd. Gadewch inni i gyd wneud yr hyn y gallwn i ofalu am ein gilydd y gaeaf hwn.”

 

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This