Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi papur trafod o’r enw “Galluogi Pobl Cymru i Bontio i Sero Net yn 2026-2030” o flaen Wythnos Hinsawdd Cymru, y gynhadledd rithiol flynyddol bydd yn cael ei gynnal ym mis Tachwedd. Mae’r papur yn tynnu ynghyd tystiolaeth a chyngor gan amryw o ffynonellau gan gynnwys y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Grŵp Her Sero Net Cymru 20235 a nifer o arbenigwyr eraill.
Noda’r papur y polisïau presennol Llywodraeth Cymru ar draws sectorau allweddol megis amaethyddiaeth, tai a thrafnidiaeth, ac yn archwilio’r hyn sydd ei angen i symud tuag at sefyllfa lle mae meddylfryd sero net yw’r norm. Bwriad y papur yw darparu gwybodaeth a syniadau er mwyn ysgogi trafodaeth ynghylch y ffyrdd gorau o gyrraedd y nod o sero net. Bydd y ddogfen yn un greiddiol i’r trafodaethau bydd yn cael eu cynnal yn ystod Wythnos Hinsawdd Cymru, gyda’r trafodaethau hynny yn eu tro yn cael eu defnyddio er mwyn sbarduno cynllun lleihau allyriadau nesaf Llywodraeth Cymru ar gyfer 5 mlynedd nesaf, y mae disgwyl ei gyhoeddi yn 2026.
Mewn datganiad ysgrifenedig dywedodd Huw Irranca-Davies AS, Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig:
“Mae cyhoeddi’r papur trafod hwn yn nodi dechrau’r cam nesaf o ymgysylltu. Bydd yn cael ei ddefnyddio i ysgogi trafodaeth yn ystod Wythnos Hinsawdd Cymru 2025, drwy raglen o ddigwyddiadau rhithwir, gweithdai rhanbarthol, a sgyrsiau yn y gymuned. Bydd yr wybodaeth a gasglwyd yn helpu i lywio datblygiad ein cynllun lleihau allyriadau nesaf, sydd i’w gyhoeddi yn 2026.
Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn ymrwymedig i bontio teg a chyfiawn, ac i sicrhau bod pobl Cymru yn cymryd rhan weithredol wrth lunio’r polisïau sy’n effeithio arnynt. Mae’r papur hwn, a’r drafodaeth yr ydym yn gobeithio y bydd yn ei hysgogi, yn rhan allweddol o’r ymrwymiad hwnnw. Rwy’n annog rhanddeiliaid ac aelodau o’r cyhoedd i ddarllen ei gynnwys a chyfrannu at y drafodaeth.”
Mae modd darllen mwy am Wythnos Hinsawdd Cymru yma, ac fe allwch ddarllen y papur trafod yn ei gyfanrwydd drwy ddilyn y ddolen hon.

