Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi newidiadau i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy

Tachwedd 2024 | Polisi gwledig, Sylw

a lush green hillside covered in lots of trees

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi newidiadau i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy wnaeth ysgogi protestiadau gan ffermwyr yn gynt yn y flwyddyn. Mae’r newidiadau yn cynnwys gwaredu’r gofyniad i ffermwyr blannu coed ar 10% o’u tir, polisi oedd wedi derbyn beirniadaeth lem gan y sector.

Yn y Sioe Aeaf yn Llanelwedd ddoe (26 Tachwedd 2024), dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig Huw Irranca-Davies fod Llywodraeth Cymru wedi bod yn trafod y cynllun gyda’r undebau ffermio, grwpiau amgylcheddol a rhanddeiliaid eraill a bod y trafodaethau hyn wedi esgor ar y newidiadau i’r cynllun. Mewn datganiad dywedodd:

“Roedd hi’n amlwg bod angen newidiadau – dywedon ni y bydden ni’n gwrando – ac rydyn ni wedi gwneud hynny.”

Serch hyn, nid yw’r newidiadau a gyhoeddwyd yn cynrychioli’r cynllun terfynol. Nododd y Dirprwy Brif Weinidog taw ‘Amlinelliad o’r Cynllun’ yw’r cynigion diweddaraf a bod angen gweithio ar fanylion y cynllun a sicrhau fod dadansoddiad economaidd ac asesiad effaith o’r newidiadau arfaethedig yn cael eu gwneud cyn gallu sicrhau’r cynllun terfynol yn ffurfiol.

Daw’r angen am gynllun newydd o’r fath yn sgil ymadawiad y Deyrnas Unedig o’r Undeb Ewropeaidd ac felly’r Polisi Amaethyddol Cyffredin, oedd yn darparu taliadau i ffermwyr.

Ynghyd a gollwng y gofyniad i blannu coed ar 10% o dir, mae’r newidiadau yn cynnwys:

  • Cadw haen Gyffredinol y cynllun, ond lleihau Gweithredoedd Cyffredinol sy’n berthnasol i bawb a chynyddu’r Gweithredoedd Opsiynol a Chydweithredol sydd ar gael i’r ffermwyr hynny sydd eisiau eu dilyn.
  • Yn lle’r targed o 10% o goed ar bob fferm unigol, bydd targed ar gyfer y cynllun cyfan yn cael ei bennu yn dilyn trafodaethau pellach gyda’r sector a rhanddeiliaid eraill. Bydd ffermwyr sydd yn gwneud cais o dan y cynllun yn gallu penderfynu faint o goed y maent am ei blannu ar eu tir a derbyn nawdd i wneud hynny drwy’r haen Opsiynol.
  • Mae’r gweithredoedd iechyd anifeiliaid, lles a bioddiogelwch wedi eu huno’n un weithred yn enw symleiddio’r broses a sicrhau canlyniadau gwell.
  • Mae’r gofyniad gorfodol i bob fferm osod mannau golchi wedi ei ddiosg a bellach yn Weithred Opsiynol.
  • Bydd taliadau ychwanegol ar sail gwerth cymdeithasol yn cael eu gwneud o dan ran gyffredinol y cynllun. Nod y taliadau hyn bydd i annog cynaliadwyedd.

Serch y newidiadau, mae’r Llywodraeth wedi penderfynu cadw’r angen i ffermwyr gadw 10% o’u tir fel cynefin yn enw sicrhau bioamrywiaeth a gwarchod natur. Fel rhan o’r trafodaethau ynghylch y rhan hwnnw o’r cynllun mae’r opsiwn o alluogi ffermwyr i greu ‘cynefin dros dro’ yn cael eu hystyried, cam y mae’r Llywodraeth yn honni bydd yn addas ar gyfer pob math o system ffermio a phob math o berchnogaeth ar dir.

Dywedodd Huw Irranca-Davies:

“Mae ffermwyr wrth galon cymunedau ledled Cymru, ac maen nhw’n chwarae rhan hanfodol yn ein heconomi ac wrth gynhyrchu bwyd. Nhw yw stiwardiaid ein tir, ac mae ganddyn nhw hefyd rôl allweddol i’w chwarae wrth warchod ac adfer natur a mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd. 

Rwy’n falch o allu cyhoeddi Amlinelliad diwygiedig o’r Cynllun heddiw sy’n dangos ein bod wedi gwneud cynnydd sylweddol drwy gydweithio gyda’r Ford Gron.

Er ein bod wedi cyflawni llawer iawn gyda’n gilydd nid dyma’r Cynllun ar ei ffurf derfynol. Mae’r Ford Gron wedi cytuno y bydd yr Amlinelliad sy’n cael ei gyhoeddi heddiw yn cael ei ddefnyddio fel sail i ddadansoddiad economaidd ac asesiad effaith newydd.

Rwy’n hynod ddiolchgar am yr ymdrech aruthrol a wnaed gan holl aelodau’r Ford Gron, gan y Gweithgor Swyddogion a’r Panel Adolygu’r Dystiolaeth am Atafaelu Carbon.

Rydyn ni’n datblygu cynllun y bwriedir iddo gefnogi pob ffermwr yng Nghymru, ac sy’n yn seiliedig ar gwblhau cyfres o Weithredoedd Cyffredinol. Bydd y Gweithredoedd hynny’n gyfarwydd i ffermwyr yng Nghymru, p’un a ydyn nhw’n ffermio cig eidion, llaeth neu dir âr, ar yr ucheldir, ar yr iseldir, yn llai dwys neu’n ddwys. Maen nhw’n weithredoedd y mae llawer o ffermwyr yn eu cymryd eisoes o ddydd i ddydd.

Bydd y penderfyniad ar y Cynllun terfynol yn cael ei wneud yr haf nesaf, ar sail rhagor o drafodaethau yng nghyfarfodydd y Ford Gron Gweinidogol ac ar sail tystiolaeth, gan gynnwys y dadansoddiad economaidd a’r asesiad effaith. Ni fydd manylion ynghylch cyfraddau’r taliadau ar gael cyn hynny.

Rwy’n parhau’n ymrwymedig i wrando ar ein rhanddeiliaid ac i weithio gyda nhw i sicrhau bod y Cynllun terfynol a ddarparwn y flwyddyn nesaf yn Gynllun a fydd yn helpu i sicrhau bod busnesau ffermio yn gadarn yn economaidd, bod bwyd yn cael ei gynhyrchu mewn ffordd gynaliadwy, a’n bod yn cyflawni’n amcanion ar gyfer yr hinsawdd a natur a’n cymunedau gwledig er budd cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol.

Rwy’n credu y bydd y newidiadau a nodir heddiw yn yr Amlinelliad o’r Cynllun yn sicrhau y bydd y Cynllun ar gael i bob ffermwr sy’n dymuno bod yn rhan ohono, ac yn cryfhau cyfraniad y Cynllun at ein hymrwymiadau ar yr  hinsawdd a natur.

Rydyn ni wedi cyflawni llawer iawn – ond mae mwy o waith i’w wneud.

Ar y cyfan mae’r ymateb i’r newidiadau wedi bod yn gadarnhaol, gyda’r undebau amaeth yn croesawu’r newidiadau. Dywedodd Llywydd NFU Cymru, Aled Jones:

Mae heddiw yn gam pwysig ymlaen wrth ddatblygu’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy, er bod llawer iawn o waith i’w wneud o hyd ar sawl agwedd ar y cynllun, gan gynnwys y manylion o dan bob Gweithred Cyffredinol a chyfraddau talu, os byddwn yn parhau i weithio mewn partneriaeth rwy’n hyderus y gall y Cynllun hwn helpu i gyflawni ein huchelgeisiau ar gyfer bwyd, natur, yr hinsawdd a chymunedau.

Dywedodd Ian Rickman, Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru:

Mae gwaith y tri grŵp dros y misoedd diwethaf wedi bod yn sylweddol wrth i ni bwyso a mesur a chymeradwyo, mewn egwyddor, ddyluniad diwygiedig ar gyfer y Cynllun. Rydym wedi croesawu’r cydweithio a’r cyfle i ymgysylltu ar y lefel hon ac yn credu ein bod bellach mewn lle gwell o ganlyniad i hyn.

Fodd bynnag, un cam ymlaen yn unig yw’r cyhoeddiad heddiw, ac mae lefel uchel o fanylion o hyd i weithio drwyddi a’i gadarnhau, gyda’r dadansoddiad economaidd diweddaraf a’r asesiadau effaith o bwysigrwydd hanfodol.

Gyda dyluniad Cynllun mwy hygyrch a hyblyg yn dilyn newidiadau sylweddol, mae’n rhaid i ni nawr sicrhau bod y gyllideb a’r fethodoleg taliadau cysylltiedig yn sicrhau sefydlogrwydd economaidd gwirioneddol i’n ffermydd teuluol yng Nghymru wrth i ni wynebu llu o heriau eraill.

Er iddynt groesawu ymroddiad y cynllun i gadw at ymrwymiadau bioamrywiaeth a natur, mae rhai elusennau natur wedi mynegi gofid ynghylch diosg y polisi o blannu coed ar 10% o dir. Fe wnaeth RSPB Cymru ryddhau datganiad ar X yn dweud:

“Rydym yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i dalu ffermwyr i reoli o leiaf 10% o’u tir ar gyfer bywyd gwyllt ac i gynnal eu Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Mae hyn yn hanfodol ar gyfer adferiad cynefinoedd a rhywogaethau yng Nghymru. Fodd bynnag, rydym yn pryderu ynghylch y penderfyniad i ollwng y targed o 10% o orchudd coetir, pan fydd y goeden iawn yn y lle iawn yn gallu bod o fudd i ffermio ac i natur.

Mae’r cyllid ar gyfer y cynllun a sut y bydd yn cael ei rannu rhwng gwahanol haenau o’r cynllun, yn parhau i fod yn aneglur. O ganlyniad, rydym yn pryderu nad oes unrhyw gynllun penodol o hyd sy’n dangos sut y bydd y cynllun yn gyffredinol yn helpu Cymru i gyflawni ei hymrwymiadau  bioamrywiaeth ar gyfer 2030. Rhaid i Lywodraeth Cymru fynd i’r afael â’r diffyg eglurder hwn ar frys i ddangos y bydd y cynllun yn ddefnydd credadwy ac effeithiol o arian cyhoeddus.

Byddwn yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru a’r sector gwledig dros y misoedd nesaf i sicrhau bod y cynllun mor effeithiol â phosibl i ffermwyr, i bobl ac i fyd natur.”

Roedd ymateb WWF Cymru wedi ei eirio’n gadarn. Mewn datganiad a gyhoeddwyd ar X, dywedodd yr elusen:

“Mae cynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn cynrychioli dirywiad arwyddocaol i natur a hinsawdd tra hefyd yn golygu risg uwch i ffermwyr o effeithiau tywydd eithafol a anogir gan yr hinsawdd, megis y llifogydd eang a welwyd y penwythnos hwn, ac sydd yn costio miliynau o bunnoedd y flwyddyn i’r sector ac yn effeithio ar gymunedau lleol.

Cododd miloedd o bobl ar draws Cymru eu lleisiau, gan gynnwys ffermwyr cyfeillgar i natur, drwy ein deisebau a’n harolygon yn mynnu bod eu trethi yn cael eu defnyddio ar gyfer Cynllun Ffermio Cynaliadwy sy’n adfer natur, yn taclo newid hinsawdd, ac yn sicrhau dyfodol cynaliadwy ar gyfer cymunedau, ffermwyr a chynhyrchu bwyd yng Nghymru.”

Bydd y cynllun terfynol yn cael ei gyhoeddi yn haf 2025 yn dilyn trafodaethau pellach ac asesiadau economaidd, ynghyd a chyhoeddiad ynghylch cyfraddiadau’r taliadau. Bydd y cynllun yn dod i rym yn 2026. Am fwy o wybodaeth ynghylch y newidiadau, dilynwch y ddolen hon i wefan Llywodraeth Cymru.

 

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This