Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi newidiadau i brofion TB

Mehefin 2024 | Polisi gwledig, Sylw

selective focus photography of cow

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi newidiadau i sut y mae profion TB mewn gwartheg yn cael eu cynnal yn dilyn trafodaethau gyda ffermwyr. Mewn datganiad, cyhoeddodd Huw Irranca-Davies, Ysgrifennydd y Cabinet ar gyfer Newid Hinsawdd a Materion Gwledig y bydd y broses yn cael ei symleiddio, gan honni na fydd hyn yn peryglu lledu pellach o’r afiechyd.

Dywedodd Huw Irranca-Davies:

‘Ers fy mhenodi, rwyf wedi mynd ati’n fwriadol i gwrdd â ffermwyr, milfeddygon a’r diwydiant ac wedi gwrando ar eu pryderon ynghylch y baich a’r ansicrwydd sydd ynghlwm wrth TB.

Rwy’n falch o allu cyhoeddi heddiw bod y newidiadau ychwanegol hyn sydd wedi’u gwneud mewn ymateb i adborth y diwydiant bellach ar waith.

Mae cydnabod yr effaith ar ffermwyr, eu teuluoedd a’u busnesau yw’r flaenoriaeth i fi.

Fis diwethaf, derbyniais holl argymhellion y Grŵp Cynghori Technegol ynghylch y polisi lo ladd anifeiliaid sy’n adweithio i’r prawf TB ar y fferm.

Rydym wedi gweithio ochr yn ochr ag APHA ac eisoes wedi gweithredu newidiadau i reoli gwartheg beichiog.

Mae ein rhaglen i waredu TB yn ddibynnol ar weithio mewn partneriaeth â’n ffermwyr a’n milfeddygon, mae hyn yn hanfodol er mwyn cyrraedd ein nod cyffredin o Gymru heb TB.’

Gwnaethpwyd y datganiad cyn i Davies siarad fel gwestai anrhydeddus yng nghinio Cymreig Cymdeithas Filfeddygol Prydain.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This