Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi manylion Procurex 2025

September 2025 | Sylw

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi manylion Procurex 2025 neu Gynhadledd Caffael Cymru 2025, sef cynhadledd caffael genedlaethol sy’n anelu i gysylltu prynwyr y sector cyhoeddus, cyflenwyr y sector breifat ynghyd ac arweinwyr masnachol a dylanwadwyr polisi o ar draws Cymru. Mae Procurex yn cael ei redeg gan gwmni preifat, ond mae’r digwyddiad wedi ei noddi’n swyddogol gan Lywodraeth Cymru. Mae digwyddiadau tebyg yn cael eu cynnal yn Lloegr a’r Alban.

Eleni bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ar ddydd Mawrth 4 Tachwedd yn Arena Utilita Caerdydd. Mae’r digwyddiad yn rhad ac am ddim i weithwyr proffesiynol y sector cyhoeddus, ac mae modd i gyflenwyr preifat fynychu am £195 + TAW. Yn ôl datganiad gan Lywodraeth Cymru mae’r digwyddiad wedi ei deilwra’n arbennig ar gyfer:

  • Timau caffael a masnachol ar draws llywodraeth ganolog a lleol, addysg, tai, iechyd a gwasanaethau brys
  • Arweinwyr polisi a strategaeth sy’n llunio dulliau caffael y dyfodol
  • Rheolwyr cynaliadwyedd ac arloesi sy’n cyflawni newid ar raddfa
  • Gweithwyr proffesiynol y gadwyn gyflenwi sy’n awyddus i ddeall anghenion prynwyr a chyfleoedd sydd i ddod

Mae’r trefnwyr hefyd yn eiddgar i annog cyflenwyr o’r sector breifat i fynychu. Ymysg y siaradwyr yn y digwyddiad bydd y cyn Brif Weinidog a’r Ysgrifenydd Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg presennol, Mark Drakeford AS.

I ddysgu mwy am y gynhadledd a sut y gallwch chi fynychu, dilynwch y ddolen hon i wefan Procurex Cymru.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This