Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi estyniad i’r dyddiad cau ar gyfer gwneud cais i’r Gronfa Paratoi at y Dyfodol. Mae’r cynllun ar gyfer busnesau micro, bach a chanolig sy’n weithredol yn y sectorau manwerthu, lletygarwch a hamdden. Nod yr arian yw galluogi fusnesau i baratoi eu busnesau ar gyfer y dyfodol drwy fuddsoddi mewn technoleg ynni adnewyddadwy, gwella adeiladau, neu ar offer neu beiriannau mwy effeithlon sy’n defnyddio llai o ynni.
Mae’r gronfa werth £20 miliwn, ac mae cyfle i bob busnes sy’n cyrraedd y meini prawf wneud cais am hyd at £10,000 o bunnoedd neu 75% o gost y gwariant, pa un bynnag sydd lleiaf. Mae disgwyl i’r busnes gyfrannu’r 25% arall o’r costau o ffynonellau eraill. Gallwch wneud cais hyd at 12yh, 13 Mehefin 2024. Mae modd canfod rhagor o fanylion ynghylch amodau pellach, ynghyd a chyfarwyddiadau am sut i wneud cais, drwy ddilyn y ddolen hon.