Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ei Chyllideb Atodol

June 2026 | Sylw

Mae Llywodraeth newydd Cymru wedi cyhoeddi ei chyllideb Atodol Gyntaf.

Amlinellodd y Gweinidog Cyllid, Elin Jones AS, sut y bydd Llywodraeth Cymru yn dyrannu £294 miliwn ar draws eu blaenoriaethau polisi allweddol dros y flwyddyn nesaf.

Cadarnhaodd y gyllideb gyllid newydd fel a ganlyn:

  • £20 miliwn i hybu’r cyflenwad o dai cymdeithasol,
  • £40 miliwn i wella adeiladau ysgolion
  • £5 miliwn ar gyfer cyfleusterau cymunedol

Mae’r gyllideb hefyd yn cynnwys £10 miliwn i deithio fforddiadwy ar gyfer pobl ifanc, £2 filiwn ar gyfer taliad plant Cynnal a £2 filiwn i roi cyfle i fwy o blant ddysgu nofio.

Roedd rhai cyhoeddiadau eisoes wedi’u gwneud, yn cynnwys:

  • Dyrannu £55 miliwn i fynediad at ofal plant;
  • Dyrannu £145 miliwn i’r GIG,  yn cynnwys buddsoddi mewn canolfannau llawfeddygol a diagnostig,  costau cynnal a chadw ysbytai a meddygfeydd.
  • Dyrannu £15 miliwn i brydau ysgol am ddim mewn ysgolion uwchradd i deuluoedd ar Gredyd Cynhwysol

Bydd pleidlais ar y gyllideb yn dilyn trafodaeth yn y Senedd ar 14 Gorffennaf 2026.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This