Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi enillwyr grantiau gwerth hyd at £10,000 er mwyn cefnogi’r Gymraeg yn eu cymunedau. Mewn datganiad dywedodd Llywodraeth Cymru fod 15 o grwpiau cymunedol wedi derbyn cyllid fel rhan o raglen grantiau bach Perthyn. Hyd yma mae’r cynllun wedi cefnogi 62 o brosiectau ers ei sefydlu yn 2022. Amcan y cynllun yw cynorthwyo cymunedau Cymraeg eu hiaith sydd â niferoedd uchel o ail gartrefi drwy greu cyfleoedd economaidd, darparu tai fforddiadwy a chyllido prosiectau sydd a’r Gymraeg yn rhan hanfodol ohonynt.
Ymhlith y rheini sydd wedi cael cyllid yw tref Llanrwst a dderbyniodd £10,000 i helpu’r gymuned i brynu siop lyfrau Bys a Bawd sydd wedi bod yn rhan o’r dref ers 50 mlynedd. Y bwriad yw prynu a thrawsnewid y siop yn ofod dan berchnogaeth gymunedol bydd yn gwasanaethu fel canolfan lenyddol.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg, Mark Drakeford:
“Mae grantiau bach yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr i’n cymunedau. Mae’n wych gweld cymaint o brosiectau yn y rownd hon o gyllid Perthyn, sy’n cynnwys prosiect ynni cynaliadwy a chymunedau’n dod at ei gilydd i brynu a rhedeg eu tafarnau, siopau, llyfrgelloedd a chapeli lleol i geisio sicrhau budd i’w cymunedau. Rydyn ni hefyd wedi helpu nifer o brosiectau sy’n cael eu harwain gan gymunedau i greu tai fforddiadwy i alluogi pobl i fyw yn eu cymunedau lleol.”
Mae’r grant yn cael ei redeg gan Cwmpas ar gyfer Llywodraeth Cymru. Dywedodd Jocelle Lovell, Cyfarwyddwr Cymunedau Cynhwysol Cwmpas:
“Rydyn ni’n falch iawn o gael gweithio gyda Llywodraeth Cymru a Planed i gyflawni’r prosiect Perthyn. Mae Perthyn yn gweithio gyda’r cymunedau i nodi ffyrdd o fynd i’r afael â’r diffyg tai fforddiadwy, gwarchod asedau cymunedol a chreu cwmnïau cydweithredol a busnesau cymdeithasol newydd. Mae gweinyddu cynllun grantiau bach ar gyfer y cymunedau i helpu i feithrin gallu lleol a sbarduno eu syniadau o ran busnes a thai wedi bod yn hwb gwirioneddol i ni. Rydyn ni’n edrych ymlaen at weld y syniadau’n datblygu ac at weithio gyda rhagor o gymunedau yn ystod y misoedd nesaf.”
Mae modd dysgu mwy am y rhaglen drwy ddilyn y ddolen hon i wefan Perthyn.