Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi cytundeb i adeiladu datblygiad tai sero net mwyaf y DU

October 2025 | Cymunedau a 'lle', Natur a hinsawdd, Polisi gwledig, Sylw

Mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno ar gontract gyda’r datblygwyr tai Barratt Redrow i ddarparu’r datblygiad tai sero net mwyaf yn y DU. Bydd 576 o gartrefi yn cael eu hadeiladu ar safle Fferm Cosmeston ar gyrion Penarth ym Mro Morgannwg. Drwy ddefnyddio technolegau arloesol a dulliau adeiladu arbennig bydd y datblygiad yn anelu i greu cartrefi sy’n cynhyrchu cymaint o ynni ag y maent yn ei defnyddio.

Comisiynwyd Prifysgol Caerdydd i asesu a dilysu’r cynlluniau yn annibynnol ac i fonitro perfformiad y cartrefi yn nhermau defnydd carbon. Yn ôl datganiad gan Lywodraeth Cymru, bydd hanner y tai bydd yn cael eu hadeiladu yn cyfrif fel rhai fforddiadwy, gyda 219 ohonynt ar gael ar gyfer rhent cymdeithasol. Yn rhan o’r datblygiad bydd ysgol gynradd newydd yn cael ei adeiladu, ynghyd a man agored a llwybr teithio llesol.

Mewn datganiad yn dilyn ymweliad diweddar â’r safle dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, Jayne Bryant:

“Mae’r datblygiad nodedig hwn yn gosod safon newydd ar gyfer tai cynaliadwy nid yn unig yng Nghymru ond ledled y DU a thu hwnt.

Nid yw hyn yn ymwneud ag adeiladu cartrefi yn unig – mae’n ymwneud â chreu cymunedau ffyniannus a mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd yn uniongyrchol. Mae ein polisi sero net yn sbarduno buddsoddiad gwirioneddol a newid gwirioneddol yn y ffordd yr ydym yn adeiladu’r cartrefi sydd eu hangen ar Gymru.

Mae’r cytundeb gyda Barratt Redrow yn newid sylweddol sy’n dangos yr hyn sy’n bosibl pan fyddwn yn rhoi pobl a’n planed yn gyntaf, ac rwy’n arbennig o falch o’u hymrwymiad i ddarparu hyfforddiant a phrentisiaethau, gan helpu i adeiladu sgiliau a gyrfaoedd ar gyfer y genhedlaeth nesaf.”

Dywedodd David Thomas, Prif Weithredwr Barratt Redrow:

“Fel un o’r adeiladwyr tai mwyaf blaenllaw yng Nghymru, rydym yn falch o fod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i adeiladu’r gymuned newydd sero net fwyaf yn y DU.

Bydd yn ddatblygiad enghreifftiol ac yn lle gwych i fyw, gyda chyfleusterau cymunedol gwych, ymrwymiad cryf i dai fforddiadwy, a rhinweddau cynaliadwyedd arloesol. Bydd pob cartref hynod effeithlon o ran ynni yn cael ei wresogi gan bwmp gwres o’r ddaear a’i bweru gan baneli a batris ffotofoltaidd, gan dorri carbon a biliau i breswylwyr y dyfodol.”

Cafodd y gwerthiant ei reoli ar ran Llywodraeth Cymru gan ymgynghoriaeth eiddo rhyngwladol Savills. Dywedodd Cyfarwyddwr Datblygu Caerdydd ar gyfer Savills, Scott Caldwell:

“Credir mai’r ymrwymiad hwn gan Barratt Redrow, yr adeiladwr tai PLC mwyaf yn y DU, yw’r cyntaf o’i fath ar y raddfa hon yn y DU.

Mae’n fuddsoddiad sylweddol ac yn harneisio llu o arbenigedd a gwybodaeth yn y diwydiant i helpu i ddangos sut y gellir rhoi safonau cyflawni ar waith ar raddfa fawr i gefnogi taith Llywodraeth Cymru tuag at sero net.

Disgwylir i’r hyn a ddysgir o daith Cosmeston helpu i lywio sut y gall gwaith datblygu gyflawni yn unol â safonau amgylcheddol llymach yn y dyfodol.”

 

 

 

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This