Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi cronfa £1 miliwn i gefnogi busnesau twristiaeth ddenu ymwelwyr ym mhob tywydd

May 2025 | Polisi gwledig, Sylw

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cronfa newydd i sicrhau fod atyniadau twristiaeth yng Nghymru yn gallu rhoi croeso i ymwelwyr ym mhob tywydd. Bydd y Gronfa Gwrthsefyll Tywydd Blwyddyn Croeso yn darparu grantiau o rhwng £5,000 a £20,000 i fusnesau sy’n cymhwyso iddynt gael gweithredu mesurau sy’n helpu i wrthsefyll tywydd gwael.

Mewn datganiad, dywedodd Llywodraeth Cymru fod twristiaeth yn cynrychioli buddsoddiad o £3.8 biliwn i economi Cymru bob blwyddyn. Eto mewn arolwg diweddar a gynhaliwyd gan Croeso Cymru, dywedodd 55% o’r busnesau a holwyd fod tywydd gwael yn reswm dros gostyngiad mewn ymwelwyr yn haf 2024.

Bwriad y grantiau yw helpu fusnesau i gymryd mesurau fel darparu canopïau, systemau draenio cynaliadwy, ardaloedd eistedd wedi’u gorchuddio, llochesi i ymwelwyr neu lwybrau gwell ac arwynebau meysydd parcio.

Dywedodd Rebecca Evans, yr Aelod Cabinet a chyfrifoldeb ar gyfer Twristiaeth:

“Yn naturiol, mae gan Gymru lawer iawn i’w gynnig ym maes twristiaeth a gall ein hymwelwyr gael sicrwydd o groeso cynnes bob amser.

Ond wrth i’r tywydd, sydd wedi creu ein tirweddau trawiadol trwy gydol hanes, ddod yn fwy a mwy anodd i’w ragweld, mae wedi cael ei nodi fel y ffactor mwyaf sy’n effeithio ar nifer yr ymwelwyr i atyniadau Cymru.

Gall tywydd gwael atal ymwelwyr rhag mwynhau, effeithio ar y profiad ac mae ganddo’r posibilrwydd o atal ymweliadau yn y lle cyntaf.

Dyna pam rydyn ni wedi gwrando ar bryderon pobl sy’n gweithio yn y sector atyniadau twristiaeth ac wedi lansio’r gronfa hon, gan eu helpu i baratoi ar gyfer patrymau tywydd mwymwy amrywiol.”

Am ragor o wybodaeth am y gronfa, ac i weld pa gymorth ariannol arall sydd ar gael i fusnesau twristiaeth, dilynwch y ddolen hon i wefan Croeso Cymru.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This