Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Bil yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth)(Cymru) gyda Huw Irranca-Davies, y Dirprwyr Brif Weinidog sy’n gyfrifol am Newid yn yr Hinsawdd, yn dweud bod gan y Bil ‘ran hanfodol’ wrth ddiogelu amgylchedd naturiol Cymru.
Mae’r Bil yn cynnwys mesurau bydd yn:
- Sicrhau bod Gweinidogion Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru yn dilyn egwyddorion amgylcheddol ac yn ystyried diogelu’r amgylchedd bob amser wrth lunio polisi.
- Sefydlu Swyddfa Llywodraethiant Amgylcheddol Cymru bydd yn cadw golwg annibynnol ar sut mae pawb yn cydymffurfio â chyfraith amgylcheddol yng Nghymru, yn ei chymhwyso ac yn ei rhoi ar waith. Bydd gwaith y corff hwn yn cynnwys sicrhau bod awdurdodau cyhoeddus, fel Llywodraeth Cymru, CNC ac awdurdodau lleol, yn cydymffurfio â’r gyfraith ac yn ei rhoi ar waith.
- Rhoi’r gallu i Weinidogion Cymru osod targedau bioamrywiaeth uchelgeisiol sy’n sbarduno gweithredu i atal a gwrthdroi’r dirywiad mewn bioamrywiaeth. Yn benodol, trwy gynyddu niferoedd rhywogaethau brodorol, gwneud ecosystemau’n fwy gwydn a chryfhau amrywiaeth enetig.
Mewn datganiad dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog:
“Gwefr i mi yw cael cyflwyno’r Bil hwn i’r Senedd heddiw. Mae’n ddeddfwriaeth hanfodol a bydd yn rhoi’r grym i ni allu mynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur, diogelu ein hamgylchedd rhag niwed a sicrhau dyfodol cynaliadwy i Gymru.
Mae Cymru’n wynebu heriau digynsail oherwydd y newid yn yr hinsawdd a bioamrywiaeth gyda tywydd mawr fel llifogydd, gwres, sychder a thanau gwyllt yn effeithio’n sylweddol ar ein cymunedau, ein hecosystemau a hyd yn oed ein heconomi.
Gydag un o bob chwe rhywogaeth mewn perygl o ddiflannu’n llwyr yng Nghymru, ni fu erioed yn bwysicach adfer natur a diogelu’r amgylchedd naturiol er lles cenedlaethau’r dyfodol.
Ni fu erioed cymaint o frys arnom i weithredu, ac mae’r Bil hwn yn gam pwysig i gryfhau ein hymateb a’n mesurau i gadw golwg ar weithredu yng Nghymru.”
Mae’r Bil wedi ei groesawu gan rai grwpiau amgylcheddol, gan gynnwys RSPB Cymru. Dywedodd Annie Smith, Pennaeth Polisi a Gwaith Achos RSPB Cymru:
“Rydym yn falch bod y Bil ‘Natur Bositif’ wedi’i gyflwyno yn Y Senedd. Rydym yn byw mewn un o’r gwledydd sydd wedi dirywio fwyaf o ran byd natur ar y Ddaear. Mae rhywogaethau a oedd unwaith yn gyffredin, fel y Gylfinir, ar y dibyn, a dim ond rhan fach o’n hardaloedd gwarchodedig ar gyfer natur sydd mewn cyflwr da. Mae’n rhaid i’r Fil hwn gweithredu’r camau brys sydd eu hangen i wella’r amgylchedd ac adfer natur yng Nghymru.”
Eto mae dal lle i wella yn ôl Smith:
“Mae’r Bil yn dechrau’n dda, ond hoffem ei weld yn mynd ymhellach. O ystyried ei fod yn dod ar ddiwedd cyfnod y Senedd, bydd hyn yn rhoi’r cyfle i weithredu newid yn nwylo Llywodraeth Cymru a’r Senedd nesaf a rhaid iddo beidio â gadael ddim amheuaeth am y pwysigrwydd o gynyddu’r gweithredu i wrthdroi colled difrod bioamrywiaeth. Wedi datgan argyfwng natur, rhaid i’r Senedd hon sicrhau bod ei hetifeddiaeth yn cynnwys ymateb cryf i natur”.
Mae modd canfod mwy o wybodaeth ynghylch y Bil, drwy ddilyn y ddolen hon i wefan Senedd Cymru.

