Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi £2m ychwanegol i helpu busnesau i wrthsefyll tywydd garw

January 2026 | Cymunedau a 'lle', Natur a hinsawdd, Polisi gwledig, Sylw

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi eu bod wedi dynodi £2m yn ychwanegol ar gyfer cronfa i helpu busnesau twristiaeth a lletygarwch i wrthsefyll tywydd garw. Roedd Cronfa Addasu i’r Tywydd Blwyddyn Croeso yn cynnig grantiau rhwng £5,000 ac £20,000 i fusnesau sy’n cyflogi rhwng 1 a 250 o bobl i wneud newidiadau i adeiladau ac isadeiledd. Wedi i’r gronfa dderbyn bron i 400 o geisiadau, penderfynwyd ehangu’r gyllideb wreiddiol o £1.75m i ateb y galw.

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn grantiau sy’n talu hyd at 75% o gostau’r prosiect. Mae busnesau twristiaeth a lletygarwch yn cynrychioli 11.8% o’r holl swyddi yng Nghymru. Yn ôl ymchwil a gynhaliwyd gan Croeso Cymru yn 2024, dywedodd 55% o fusnesau twristiaeth taw tywydd gwael oedd y prif reswm dros ostyngiad yn y nifer yr ymwelwyr.

Mewn datganiad gan Llywodraeth Cymru, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans:

“Mae ein busnesau twristiaeth a lletygarwch yng Nghymru yn cynnig profiadau gwych drwy gydol y flwyddyn, ond nid yw’r tywydd bob amser ar ein hochr ni. Drwy ddyrannu £2 filiwn arall i’n cronfa poblogaidd ar gyfer gwrthsefyll tywydd, mae Llywodraeth Cymru yn helpu bron i 400 o fusnesau I aros ar agor yn hirach, gan gadw pobl yn gyflogedig, a rhoi hwb i economïau lleol ledled Cymru.”

Mae ceisiadau ar gyfer y gronfa wedi cau yn barod, a’r busnesau bu’n llwyddiannus yn cael eu hysbysu ar hyn o bryd.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This