Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi eu bod wedi ychwanegu £10 miliwn at y Cynllun Benthyciadau Gwyrdd a lansiwyd ym mis Mawrth 2023 a bydd nawr yn parhau hyd nes 2028. Yn ôl Llywodraeth Cymru mae dros 30 o fusnesau wedi elwa o’r cynllun sy’n cael ei weinyddu gan Fanc Datblygu Cymru. Mae’r Llywodraeth yn honni fod hyn am arwain at arbed 28,000 tunnell o garbon rhag cael ei ryddhau i’r atmosffer dros oes y prosiectau.
Ymhlith y rheini sydd wedi elwa o’r cynllun yw Thorncliffe Building Supplies o’r Wyddgrug, a wnaeth dderbyn benthyciad o £3.2 miliwn er mwyn buddsoddi mewn system trin dŵr ynghyd a gwaith golchi newydd er mwyn lleihau dibyniaeth y cwmni ar safleoedd tirlenwi. Mae’r cwmni yn cyflogi 265 o bobl ar draws 5 safle yng Ngogledd Cymru.
Mewn datganiad dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr y cwmni Tim Harper:
“Rydym yn esblygu’n gyson fel busnes i arallgyfeirio a chryfhau’r hyn a gynigir i gwsmeriaid gan barhau i gydymffurfio â gofynion rheoleiddio a deddfwriaethol.
Mae lleihau gwastraff a thorri ein hallyriadau carbon yn flaenoriaeth allweddol i ni, ac o ganlyniad gwnaethom benderfynu buddsoddi mewn gwaith golchi newydd. Bydd hyn yn caniatáu i ni brosesu ein gwastraff adeiladu a’n hisbridd ar y safle yn hytrach na defnyddio safle tirlenwi.
Bydd y cyfleuster yn golchi ac yn didoli’r gwastraff i wahanol raddau o agregau y gellir eu hailwerthu wedyn felly mae’n sefyllfa lle mae pawb ar eu hennill.”
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans:
“Mae’r estyniad £10 miliwn hwn i’r Cynllun Benthyciadau Busnes Gwyrdd yn dangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gefnogi busnesau ar eu taith i sero net. Rydym yn sicrhau y gall hyd yn oed mwy o gwmnïau gael mynediad at y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i leihau eu hôl troed carbon wrth gryfhau eu cystadleurwydd.
Gyda dros 30 o fusnesau eisoes yn elwa ac wedi rhagweld arbedion carbon o fwy na 28,000 tunnell, mae’n amlwg bod awydd cryf am arloesedd cynaliadwy ymhlith mentrau Cymru sy’n cefnogi ein huchelgais i dyfu’r economi.”
Bethan Cousins yw Cyfarwyddwr Busnes Newydd y Banc Datblygu. Dywedodd hithau:
“Mae llwyddiant y Cynllun Benthyciadau Busnes Gwyrdd yn dyst i uchelgais ac arloesedd busnesau Cymru wrth fynd i’r afael â newid hinsawdd.
Mae Thorncliffe yn enghraifft wych o sut mae’r cynllun yn helpu busnesau ledled Cymru i ‘fuddsoddi i gynilo’ drwy ddarparu benthyciadau gyda chyfraddau llog gostyngol i wneud gwelliannau effeithlonrwydd ynni a gweithredu mentrau datgarboneiddio.
Bydd y buddsoddiad pellach hwn gan Lywodraeth Cymru yn sicrhau ein bod yn parhau i ysgogi newid ystyrlon, gan gefnogi busnesau o bob maint i fabwysiadu technolegau sy’n lleihau allyriadau ac yn cryfhau cydnerthedd ynni.”
Mae modd canfod mwy o wybodaeth am y cynllun drwy ddilyn y ddolen hon i wefan Banc Datblygu Cymru.

