Llywodraeth Cymru yn annog entrepreneuriaid i ymuno a rhaglen dechrau busnes

Gorffennaf 2024 | Arfor, Sylw

Apple MacBook beside computer mouse on table

Mae Busnes Cymru, rhan o Lywodraeth Cymru, yn annog entrepreneuriaid i ymuno a rhaglen arbennig sydd a’r nod i helpu i helpu’r rheini sydd am ddechrau busnes i gyflymu’r broses. Mae’r Rhaglen Cyflymu Twf busnes yn derbyn ceisiadau ar gyfer y Rhaglen Cyflymu Busnes bydd yn dechrau ym mis Medi 2024.

Mae’r rhaglen deuddeg wythnos yn cynnwys sesiynau rhithiol ac wyneb yn wyneb i ddarparu cyngor a chymorth i ymgeiswyr llwyddiannus. Bwriad y prosiect yw bod cyfranogwyr yn derbyn arweiniad ar gyfer pob cam o ddechrau busnes, gan helpu i ddatblygu sgiliau allweddol a magu hyder wrth ddechrau masnachu. Bydd yna hefyd elfen gref o rwydweithio i’r rhaglen, gyda chyfleoedd i ddatblygu cysylltiadau gwerthfawr ar draws amryw o sectorau.

Maent yn awyddus i ddenu ymgeiswyr uchelgeisiol sydd wedi eu lleoli yng Nghymru, sydd a’r nod o gyrraedd dros £1 miliwn mewn trosiant blynyddol a thyfu i greu deg swydd llawn amser erbyn 2028, gyda’r posibilrwydd o allforio nwyddau neu wasanaethau. Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais yw 19 Awst 2024. Am ragor o wybodaeth ac i wneud cais, dilynwch y ddolen hon.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This