Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei Rhaglen Lywodraethu newydd.
Mae’r Rhaglen Lywodraethu yn cael ei chyhoeddi gan lywodraeth newydd ar ddechrau pob tymor yn y Senedd. Mae’n amlinellu’r hyn y mae gweinidogion Llywodraeth Cymru eisiau ei gyflawni cyn yr etholiad nesaf.
Mae’r ddogfen, a lansiwyd gan y Prif Weinidog, Rhun ap Iorwerth, yn canolbwyntio ar flaenoriaethau allweddol y Llywodraeth newydd.
Yn eu plith mae:
- Lleihau rhestrau aros;
- Helpu teuluoedd â chostau byw;
- Creu swyddi da sy’n talu’n dda;
- Codi safonau addysgol,
- Mynd i’r afael â thlodi plant,
- a sefyll dros Gymru.
Dywedodd y Prif Weinidog:
“Ein ffocws nawr yw troi gweithredu cynnar yn ganlyniadau parhaol – drwy leihau rhestrau aros, sicrhau dyfodol mwy cynaliadwy i’n Gwasanaeth Iechyd, helpu teuluoedd â chostau byw, creu swyddi da, codi safonau yn ein hysgolion, mynd i’r afael â thlodi plant a sefyll dros ein cenedl.”
Mae modd lawrlwytho’r Rhaglen Lywodraethu 2026i 2030 YMA.

