Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi dathliad o’r sector elusennol yng Nghymru ar ffurf datganiad i nodi Wythnos Elusennau Cymru. Yn ôl Llywodraeth Cymru mae 27% o bobl yng Nghymru yn gwirfoddoli’n ffurfiol gydag elusennau a sefydliadu, cyrff sy’n aml yn ffurfio asgwrn cefn gwasanaethau a gofodau cymunedol ar hyd a lled y wlad.
Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu £10.9 miliwn i gefnogi’r trydydd sector eleni, cynnydd o £2.3 miliwn o’i gymharu â llynedd. Mae’r Llywodraeth hefyd yn buddsoddi mwy na £3.57 miliwn yn uniongyrchol i gefnogi gwirfoddoli eleni, cynnydd o £1.76 miliwn o’i gymharu â llynedd. Bwriad y gefnogaeth hon yw helpu canolfannau gwirfoddoli lleol i gysylltu pobl a chyfleoedd i gymryd rhan er mwyn cynorthwyo ac ateb gofynion cymunedau. Noda Llywodraeth Cymru fod cefnogaeth hefyd yn cael ei ddarparu drwy Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA) a Chynghorau Gwirfoddol Sirol.
Un sefydliad sydd wedi elwa o’r buddsoddiad hwn yw GISDA yng Ngwynedd, sy’n cefnogi pobl ifanc rhwng 16 a 25 sy’n wynebu digartrefedd neu anfantais. Mae GISDA’N darparu llety, cyfleoedd hyfforddi a gwasanaethau iechyd meddwl i gyd yn ddwyieithog o ganolfannau yng Nghaernarfon, Blaenau Ffestiniog a Pwllheli, gan helpu pobl ifanc ganfod sefydlogrwydd a chynllunio ar gyfer dyfodol cadarnhaol.
Mewn datganiad a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru, dywedodd Prif Weithredwr GISDA, Siân Tomos:
“Mae gan bob person ifanc rydyn ni’n gweithio gyda nhw ei stori bersonol ei hun, ac mae’n brofiad mor bwerus eu gweld nhw’n tyfu mewn hyder ac yn dechrau llunio dyfodol mwy positif. Mae gweithio’n agos gyda phartneriaid yn y sector cyhoeddus yn ein galluogi ni i gynnig y gefnogaeth sydd ei hangen ar bobl ifanc, ac mae’r gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru yn helpu i wneud y gwaith hwn yn bosibl. Mae’n fraint dod i’r gwaith bob dydd a chael fy ysbrydoli gan gymhelliant a gwytnwch y bobl ifanc rydyn ni’n eu cefnogi ac ymrwymiad ein gwirfoddolwyr.”
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt:
“Mae elusennau fel GISDA yn dangos y gwahaniaeth trrawsnewidiol y mae’r sector gwirfoddol yn ei wneud bob i fywydau pobl bob dydd, gyda phobl ifanc a oedd unwaith yn wynebu ansicrwydd bellach yn ennill sgiliau, hyder a gobaith.
Yn ystod Wythnos Elusennau Cymru, rwyf am ddiolch i bob gwirfoddolwr a gweithiwr elusennol ledled Cymru am eu hymroddiad, ac rwy’n annog pawb i barhau i gefnogi’r elusennau a’r ymdrechion gwirfoddoli sy’n cyfoethogi ein cymunedau.
Mae ein buddsoddiad o bron i £11m eleni yn adlewyrchu ein hymrwymiad i sicrhau bod elusennau yn cael y gefnogaeth sydd ei angen arnynt i ffynnu. Gyda’n gilydd, rydyn ni’n adeiladu cymunedau cryfach a mwy cysylltiedig ledled Cymru.”
Gallwch ddysgu mwy am y gefnogaeth sydd ar gael i’r sefydliadau ac unigolion rheiny sydd yn gweithio yn y sector elusennol drwy ddilyn y ddolen hon i wefan Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru.

