Llwyddiant gwaharddiad mynediad dros dro yn rhoi hwb i fywyd natur ar Ynys Môn

September 2025 | Natur a hinsawdd, Sylw

Mae RSPB Cymru wedi nodi llwyddiant parth dan waharddiad ar ardal o’r ‘Range’, Penrhyn Mawr wedi i Biod Môr nythu yno am y tro cyntaf mewn degawd. Daeth y gwaharddiad ar fynediad i’r cyhoedd i rym er mwyn ceisio atal difrod i dirlun yr ardal a chyfyngu niwed i natur a achosir gan weithgareddau antur. Daeth y gwaharddiad mynediad i ben ar ddydd Llun 15 Medi 2025.

Mae Penrhyn Mawr yn eistedd o fewn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Glannau Ynys Gybi (SSSI) ar Ynys Môn. Mae hwn yn ardal bwysig i fywyd gwyllt prin ac mae Brain Coesgoch, Hebogiaid Tramor, Morloi Llwyd, a Gleision Serennog yn trigo yn yr ardal.

Nod y gwaharddiad oedd rhoi cyfle i’r rhywogaethau hyn ac eraill allu nythu a magu’n llwyddiannus yn ystod 6 mis y gwanwyn a’r haf. Yn ôl RSPB Cymru gwelwyd dychwelyd adar môr o’r Rhestr Oren i nythu mewn safleoedd a ddefnyddir ar gyfer gweithgareddau awyr agored ac antur. Cofnodwyd diwethaf yn 2013. Hefyd fe welwyd Brain Croesgoch sydd ar Restr Goch Cymru, yn chwilio am safleoedd nythu newydd yn yr ardal.

Bydd rhai rhwystrau yn parhau ar fynediad i Benrhyn Mawr gyda gofyniad i’r rheini sydd yn cymryd rhan mewn gweithgareddau taledig neu i ddefnyddio’r warchodfa ar gyfer gweithgareddau awyr agored, ofyn caniatâd. Ni fydd unrhyw weithgareddau yn derbyn caniatâd cyn diwedd mis Hydref oherwydd bydd Morloi Llwyd yn defnyddio’r glannau i roi genedigaeth, ac fe all trefniadau mynediad newid yn sydyn os arsylwir rhywogaethau prin yn yr ardal. Nid oes unrhyw gyfyngiadau ar y rheini sydd am ddefnyddio Llwybr Arfordir Cymru na llwybrau eraill a ddynodwyd.

Mewn datganiad dywedodd Laura Kudelska, Rheolwr Safle Uwch RSPB Ynys Lawd:

“Mae’r parth dan waharddiad chwe mis wedi rhoi’r seibiant oedd ei angen i fywyd gwyllt adfer ar ‘y Range’, a hoffwn ddiolch i ddarparwyr gweithgareddau ag ymwelwyr am ddilyn y canllawiau yn ystod y cyfnod hwn. Edrychwn ymlaen at weithio’n agos gyda phartneriaid a darparwyr gweithgareddau yn ystod y misoedd nesaf i ddod o hyd i ateb hirdymor ac ymarferol, a fydd yn caniatáu i bobl fwynhau’r Range mewn ffordd nad yw’n amharu ar fywyd gwyllt.”

Dywedodd Euros Jones, Rheolwr Gweithrediadau CNC dros gogledd Cymru:

“Hoffem ddiolch i ddarparwyr am gadw at y parth dan waharddiad pan gyflwynwyd. Mae’r safle yn gartref i adar dan warchodaeth atodlen un fel Brain Coesgoch a Hebogiaid Tramor, morloi a bywyd gwyllt prin eraill, gan gynnwys Gleision Serennog, a symud ymlaen mae’n bwysig cydbwyso diogelu bywyd gwyllt gyda chaniatáu gweithgareddau hamdden. Byddwn yn parhau i weithio gyda chydweithwyr a darparwyr gweithgareddau am ateb tymor hir.”

Ychwanegodd Andy Godber, Rheolwr Economi Ymwelwyr ag Ardaloedd Arfordirol Cyngor Ynys Môn:

“Rydym yn cydnabod pwysigrwydd cydbwyso diogelu bywyd gwyllt a gweithgareddau hamdden awyr agored a’r heriau y mae hyn yn eu codi. Er bod y lesddaliad a ddarparwyd gennym i’r RSPB yn caniatáu iddynt wneud penderfyniadau’n annibynnol, rydym yn falch o weld sgyrsiau cadarnhaol rhwng partneriaid a darparwyr gweithgareddau yn ystod y cyfnod interim hwn. Yn y dyfodol, gobeithiwn y gellir cyrraedd ateb cadarnhaol i bawb.”

Dywedodd Mary Tansell, cynrychiolydd o’r Siarter Genedlaethol Arfordira:

“Mae’r Siarter Genedlaethol Arfordira wedi ymrwymo i gadw deialog agored gyda rhanddeiliaid ag aelodau er mwyn galluogi mynediad i’r safle yn y dyfodol. Fel addysgwyr awyr agored, rydym yn angerddol dros yr amgylchedd rydyn ni’n gweithio ynddo. Mae gweithgareddau antur yn gyfle gwych i addysgu plant ysgol, grwpiau ieuenctid a thwristiaid yng Nghymru. Rydyn ni bob amser yn dysgu a’r gobaith, wrth fynd ymlaen, yw cefnogi ethos yr amgylchedd o amgylch warchodfa Ynys Lawd mewn ffordd ymgysylltiedig a gwybodus.”

Dywedodd Catherine Williams, Swyddog Gweithredol drost Eryri Actif:

“Er bod y cyfnod gwahardd wedi bod yn heriol i ddarparwyr gweithgareddau awyr agored, rydym yn falch o weld bod llinellau cyfathrebu mwy effeithiol bellach ar waith rhwng yr holl randdeiliaid. Mae darparwyr gweithgareddau awyr agored yn angerddol am y tirweddau y maent yn cyflwyno pobl iddynt ac yn awyddus i ehangu eu gwybodaeth am fywyd gwyllt a rhinweddau unigryw’r safleoedd hyn, i helpu i amddiffyn y lleoedd arbennig hyn ac i rannu eu harwyddocâd gyda chleientiaid.”

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This