Mae Darren Millar AS, Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, wedi cyhoeddi llefarwyr ei blaid. Mae gan y blaid saith sedd yn y Senedd.
Wrth ddatgelu ei dîm, dywedodd Darren Miller AS:
“Byddwn yn wrthblaid adeiladol yn y Senedd, gan geisio gweithio gydag eraill, lle bo modd, i sicrhau newid cadarnhaol ledled y genedl. Bydd hynny’n cynnwys parhau i wneud yr achos dros drethi is, rhoi terfyn ar wariant gwastraffus, a chynnig atebion i drwsio ein gwasanaethau cyhoeddus.”
Y penodiadau yn llawn:
– Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Gweinidog Cysgodol dros y Lluoedd Arfog a Chyn-filwyr – Darren Millar AS
– Dirprwy Arweinydd, Trefnydd Cysgodol, Prif Chwip a Gweinidog Cysgodol dros yr Iaith, Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon – Paul Davies AS
– Gweinidog Cysgodol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol – Natasha Asghar AS
– Gweinidog Cysgodol dros Ffermio a’r Amgylchedd – Andrew RT Davies AS
– Gweinidog Cysgodol dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni – Janet Finch-Saunders AS
– Gweinidog Cysgodol dros Gyllid, Llywodraeth Leol a Chymunedau – Peter Fox AS
– Cyfarwyddwr Polisi, Gweinidog Cysgodol dros Addysg, Teuluoedd a’r Cyfansoddiad – Sam Rowlands AS

