Lesley Griffiths yn galw cyfarfod brys gyda undebau ffermio Cymru

February 2024 | Polisi gwledig, Sylw

Mae Gweinidog Materion Gwledig Llywodraeth Cymru, Lesley Griffiths, wedi gwahodd dau brif undeb ffermio Cymru ar gyfer cyfarfod brys ynghylch gwrthwynebiad nifer yn y sector amaeth i newidiadau arfaethedig y Llywodraeth i’r system taliadau amaethyddol yng Nghymru drwy’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy.

Mae’r wythnosau diwethaf wedi gweld tensiynau’n cynyddu, wrth i fwy o ffermwyr fynegi eu gwrthwynebiad i’r cynlluniau bydd yn newid y meini prawf ar gyfer derbyn taliadau gan Lywodraeth Cymru. Nod y Llywodraeth yw sicrhau buddiannau amgylcheddol drwy’r cynllun newydd, gan gynnwys y gofyniad dadleuol ar gyfer plannu coed ar hyd at 10% o dir amaethyddol pob fferm.

Mewn datganiad dywedodd Llywydd NFU Cymru Aled Jones:

‘Fe wnaethom ni gwrdd â’r Gweinidog Materion Gwledig Lesley Griffiths ar ddydd Mawrth yr wythnos hon i fynegi’r pryder mawr y diwydiant ac fe wnaethom ni ei gadael hi heb amheuaeth o’r cryfder teimlad a difrifoldeb y sefyllfa yn dilyn yr adborth cryf yr ydym wedi ei dderbyn o ganlyniad i’n cyfres o sioeau taith. Dwi’n croesawu’r ffaith fod y Gweinidog yn cydnabod gofidion difrifol ffermwyr ac wedi cytuno i gyfarfod ac edrych ar ffyrdd o ddatrys y materion hyn.’

I ddysgu mwy am ymateb NFU Cymru i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy, dilynwch y ddolen hon i’w gwefan.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This