Lansio ymgynghoriad ar Safonau’r Gymraeg

Gorffennaf 2024 | Sylw

a large building with a ferris wheel in front of it

Mae Llywodraeth Cymru wedi cychwyn ymgynghoriad ynghylch y posibilrwydd o ychwanegu cyrff cyhoeddus at y rhestr o sefydliadau y bydd gofyn iddynt ddilyn Rheoliadau Safonau’r Gymraeg. Mae’r Safonau yn golygu fod yn rhaid i sefydliadau ddilyn gofynion penodol pan ddaw at y Gymraeg a’i defnydd o ddydd i ddydd. Mae hyn yn cynnwys darparu gwasanaethau penodol yn Gymraeg, llunio polisi iaith, hybu’r Gymraeg a chadw cofnodion yn Gymraeg ymysg gofynion eraill. Mae gan y Comisiynydd Iaith gyfrifoldeb dros orfodi’r Safonau, ac i sicrhau eu bod yn cael eu dilyn.

Mae’r ymgynghoriad am ganfod barn y cyhoedd ynghylch diwygio pedair set o reoliadau fel bod chwe chorff cyhoeddus ac un categori o bersonau yn cael eu hychwanegu i’r rhestr o’r rheini sy’n ddarostyngedig i rai o Safonau’r Gymraeg. Am ragor o wybodaeth ynghylch y Safonau, y sefyllfa bresennol ynghyd a’r newidiadau arfaethedig, yna dilynwch y ddolen hon i dudalen yr ymgynghoriad ar wefan Llywodraeth Cymru. Bydd yr ymgynghoriad yn cau ar 7 Hydref 2024.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This