Lansio ymchwiliad newydd i edrych ar werth saethu yng Nghymru

July 2025 | Polisi gwledig, Sylw

Lansiwyd ymchwiliad newydd i werthuso gwerth saethu cynaliadwy i economi Cymru yn y Sioe Fawr yn Llanelwedd yr wythnos diwethaf. Mae Grŵp Trawsbleidiol Saethu a Chadwraeth Senedd Cymru yn ymchwilio i gyfraniad economaidd saethu a gweithgareddau cysylltiedig i economi Cymru. Bydd yr ymchwiliad yn canolbwyntio ar bedwar maes allweddol:

  • Cyflogaeth
  • Twristiaeth
  • Iechyd a lles
  • Bioamrywiaeth

Bydd canlyniadau’r ymchwiliad yn cael eu cyhoeddi mewn adroddiad bydd yn gosod argymhellion ymarferol ar gyfer llywodraethau’r dyfodol. Cyhoeddodd cadeirydd y grŵp James Evans AS yr ymchwiliad ar stondin Cymdeithas Saethu a Chadwraeth Prydain, yng nghwmni chynrychiolwyr o’r sectorau amaeth a saethu.

Dywedodd James Evans AS:

“Mae lot o saethiadau fferm ar draws Cymru yn mynd i orfod newid y modd y maent yn gweithredu er mwyn ymdopi a’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy. Byddwn yn galw am dystiolaeth o rhanddeiliaid ar gyfer ein hymchwiliad. Bydd y darn hwn o waith nid yn unig yn hysbysu’r llywodraeth hon ond y llywodraeth nesaf. Bydd yn cyflwyno dulliau clir ac ymarferol y gallwn wella saethu a chadwraeth ar draws Cymru, a drwy wneud hyn byddwn yn gwella rhagolygon saethu ar draws Cymru ac yn sicrhau y bydd y sector wych hon yn parhau am genedlaethau i ddod.”

Dywedodd Steve Griffiths, Cyfarwyddwr Cymdeithas Saethu a Chadwraeth Prydain:

“Mae Cymdeithas Saethu a Chadwraeth Prydain yn cefnogi’r ymchwiliad ac yn casglu tystiolaeth o GWCT a rhanddeiliaid eraill. Bydd hwn yn cael ei goladu a’i ddadansoddi gan ein tîm tystiolaeth a’i gyflwyno mewn adroddiad. Rydym yn disgwyl i’r adroddiad i gynnwys wyth argymhelliad ymarferol. Bydd y rhain yn cael eu cyflwyno i Lywodraeth newydd Cymru ar ôl etholiadau mis Mai.”

Mae modd canfod mwy o wybodaeth am waith y grŵp drwy ddilyn y ddolen hon i wefan Senedd Cymru.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This