Gall troseddau bywyd gwyllt a chefn gwlad fod ar sawl ffurf megis dwyn offer amaethyddol, troseddau difrifol yn erbyn da byw a dinistrio bywyd gwyllt a’u cynefinoedd.
Yn ôl gwybodaeth a amlinellwyd yn y strategaeth, yn 2021, £1.3m oedd cost lladrata yng nghefn gwlad Cymru – lefel is na blynyddoedd cynt oherwydd cyfyngiadau Covid-19. Mae arwyddion cyntaf 2022 yn awgrymu bod troseddu yng nghefn gwlad ar gynnydd eto ac y gallai godi i’r hyn ydoedd cyn y pandemig. Dengys un arolwg bod 89% o bobl yn poeni y gallai chwyddiant a chostau byw arwain at gynnydd eto mewn troseddu sy’n effeithio ar gymunedau gwledig.
Diffinnir troseddau cefn gwlad yn y strategaeth fel troseddau penodol sy’n digwydd yn bennaf yng nghefn gwlad ac yn effeithio ar ffermwyr a chymunedau teneuach eu poblogaeth, neu ar ein bywyd gwyllt, ein cynefinoedd, a’n treftadaeth.
Mae trosedd bywyd gwyllt yn cynnwys unrhyw weithgaredd sy’n torri deddfwriaeth sy’n amddiffyn anifeiliaid a phlanhigion gwyllt Cymru. Gall rhywogaeth fod mewn perygl i’r pwynt y gall ddiflannu ac mae llawer o anifeiliaid yn cael eu herlid ac yn dioddef creulondeb o ganlyniad i ystod eang o weithgareddau troseddol gan gynnwys potsio, cwrso, hela, masnachu, gwenwyno a dinistrio cynefin.
Gall fod yn anodd diffinio troseddau gwledig gan eu bod yn cynnwys ystod eang o droseddau gan gynnwys rhai a gyflawnir hefyd yn y trefi – gallant fod yn fwy cyffredin yno yn wir – er enghraifft megis trais yn y cartref. Fodd bynnag, gall amgylchiadau’r drosedd, yr ymateb i’r drosedd honno a’r gefnogaeth sydd ar gael i’r unigolion a’r cymunedau hynny fod yn wahanol iawn mewn ardaloedd cefn gwlad. Ymhlith y troseddau sy’n fwy unigryw i gymunedau gwledig yw’r rheini sy’n ymwneud â ffermydd, ceffylau a threftadaeth. Mae troseddau sy’n effeithio ar yr amgylchedd yn cynnwys tipio anghyfreithlon a llygru, sydd hefyd yn effeithio ar amaethyddiaeth fel y mae dwyn da byw ac aflonyddu ar dda byw. Maent i gyd yn gallu cael effaith sylweddol ar gynhyrchu bwyd. Troseddau treftadaeth yw’r rheini sy’n effeithio ar werth adeiladau a safleoedd hanesyddol Cymru fel difrodi henebion a chwilio am fetel yn anghyfreithlon.
Does dim dwywaith bod yr heriau, oherwydd maint ac ystod troseddau bywyd gwyllt a chefn gwlad yng Nghymru, yn rhai arwyddocaol. Bydd y strategaeth ar y cyd, rhwng Llywodraeth Cymru a phedwar heddlu Cymru, yn allweddol yn y frwydr yn erbyn troseddau o’r fath.