Lansio sefydliad newydd i hybu arloesedd ym meysydd technoleg amaeth a bwyd

Rhagfyr 2024 | Awtomeiddio ac AI, O’r pridd i’r plât, Polisi gwledig, Sylw

Mae Tyfu Canolbarth Cymru wedi cyhoeddi lansiad sefydliad newydd ar y cyd gydag Uchelgais Gogledd Cymru, M-SParc ac ArloesiAber. Nod y Sefydliad Rheoli Clwstwr (SRhC) yw hybu arloesedd ym meysydd technoleg amaeth a bwyd yng Nghanolbarth a Gogledd Cymru.

Y bwriad yw annog arloesi mewn gwasanaethau, technolegau, a dulliau newydd wrth gynhyrchu technoleg amaeth a bwyd ar gyfer y rhanbarth gan helpu i gydlynu gweithgareddau a hyrwyddo cyfleoedd ariannu sydd ar gael i randdeiliaid a phartneriaid. Bydd y prosiect yn rhedeg am ddwy flynedd i ddechrau gan ddefnyddio cyllid gan ddefnyddio cyllid gan Innovate UK.

Un o brif amcanion y prosiect yw ceisio cryfhau cydweithio rhwng busnesau, sefydliadau ymchwil a phartneriaid rhanbarthol nid yn unig er mwyn hybu arloesedd ond er mwyn aros yn gystadleuol ym meysydd cynhyrchu bwyd a thechnoleg amaethyddol. Bydd y gwaith hwn yn cael ei gynorthwyo drwy ddigwyddiadau, gweminarau a chyfleoedd ariannu i gefnogi busnesau.

Yn siarad ar ran  Tyfu Canolbarth Cymru, dywedodd Carwyn Jones-Evans:

“Mae’r cyllid hwn yn garreg filltir bwysig i’r sectorau bwyd-amaeth a thechnoleg amaeth yng Nghanolbarth a Gogledd Cymru. Bydd y Sefydliad Rheoli Clwstwr yn gyfrwng hanfodol ar gyfer dod â busnesau, partneriaid ymchwil a chyfleoedd ariannu ynghyd, gan sicrhau bod ein rhanbarth yn parhau i fod ar flaen y gad o ran arloesi technolegol.”

Dywedodd Elliw Hughes, Rheolwr Rhaglen y Cynllun Twf, Uchelgais Gogledd Cymru:

“Mae lansio’r Sefydliad Rheoli Clwstwr yn ddatblygiad cyffrous a fydd yn ein galluogi i harneisio a gwneud y mwyaf o botensial enfawr y sectorau technoleg bwyd-amaeth ledled Gogledd a Chanolbarth Cymru. Rydym yn edrych ymlaen at chwarae rhan ganolog yn y broses o sicrhau bod sefydliadau cymwys yn elwa o’r cyllid sydd ar gael.”

Dywedodd Rhian Hayward, Prif Swyddog Gweithredol ArloesiAber:

“Mae’r lansiad hwn yn foment allweddol i ni, ac rydym yn gyffrous i gefnogi’r clwstwr bwyd-amaeth. Ein nod yw dod â busnesau a sefydliadau ymchwil ynghyd i arloesi mewn ffyrdd sy’n economaidd hyfyw ac yn gynaliadwy yn amgylcheddol.”

Ychwanegodd Pryderi ap Rhisiart, Rheolwr Gyfarwyddwr M-SParc:

“Mae’r clwstwr amaeth-dechnoleg rydyn ni’n ei reoli eisoes yn cymryd camau breision ac rydyn ni’n edrych ymlaen at barhau i gefnogi arloeswyr disgleiriaf y rhanbarth.”

I ddysgu mwy am waith Tyfu Canolbarth Cymru yn y maes hwn a’r cyfleoedd cyllido sydd ar gael, dilynwch y ddolen hon i’w gwefan.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This