Lansio pedwaredd rownd y Gronfa Rhwydweithiau Natur

Gorffennaf 2024 | Sylw

a small red mushroom sitting on the ground

Mae pedwerydd rownd y Gronfa Rhwydweithiau Natur wedi ei gyhoeddi gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol ar ran Llywodraeth Cymru ac mewn partneriaeth â Chyfoeth Naturiol Cymru. Nod y gronfa yw helpu i wella’r rhwydwaith o safleoedd tir a morol gwarchodedig sydd yng Nghymru yn enw atal dirywiad mewn bioamrywiaeth, cefnogi adferiad byd natur a gwella’r gallu i’r cynefinoedd hyn wrthsefyll effeithiau newid hinsawdd.

Mae grantiau gwerth rhwng £50,000 a £1 miliwn ar gael ar gyfer unigolion neu sefydliadau sy’n gweithio ym maes treftadaeth naturiol yng Nghymru. Bydd grantiau yn cael eu rhoi i brosiectau cymwys sy’n gweithio i wella bywyd gwyllt a bioamrywiaeth yng Nghymru mewn safleoedd oddi fewn neu ar ffiniau safleoedd gwarchodedig.

Mae gweminar arbennig yn cael ei drefnu er mwyn trafod y grantiau a’r hyn sydd angen ei wneud er mwyn cwblhau cais. Mae modd cofrestru ar gyfer y gweminar drwy ddilyn y ddolen hon. Am fwy o wybodaeth ynghylch y grantiau, a sut i fynd ati i wneud cais, dilynwch y ddolen hon i wefan y Gronfa Treftadaeth.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This