Lansio pamffled newydd sy’n cynnig gweledigaeth amgen o ddyfodol y cymoedd

September 2025 | Arfor

Yng Nghlwb y Bont ym Mhontypridd neithiwr (3 Medi 2025) lansiwyd pamffled newydd sydd yn cynnig gweledigaeth amgen i gymunedau cymoedd Cymru. Fe wnaeth Beth Winter, y cyn Aelod Seneddol Llafur, a Leanne Wood, cyn arweinydd Plaid Cymru lansio’r ddogfen o flaen stafell llawn aelodau’r gymuned leol, ymgyrchwyr o bob math a chynrychiolwyr o sefydliadau cymunedol o ar hyd a lled y cymoedd.

Ysgrifennwyd y pamffled gan Dr. Huw Williams o adran Athroniaeth Prifysgol Caerdydd, yn dilyn cyfres o ‘gynulliadau cymunedol’ a drefnwyd gan Beth Winter a Leanne Wood ym Merthyr Tydfil, Cwm Cynon a’r Rhondda yn gynharach eleni. Roedd yr awch am newid gwirioneddol yn amlwg yn y gweithdai hyn yn ôl y trefnwyr. Mynegodd mynychwyr y digwyddiadau ddymuniad cryf i weld mwy o berchnogaeth gymunedol, sicrhau economïau lleol cynaliadwy, a dyfodol lle mae cyfoeth ardaloedd lleol yn cael ei gadw a’i ail fuddsoddi o fewn cymunedau.

Ysbrydolwyd y fenter gan y diweddar Sel Williams, sefydlwr ac un o arweinwyr pennaf y mudiad Cymunedoli yng Nghymru. Diffiniodd Sel y syniad o Cymunedoli fel “perchnogaeth a rheolaeth gymunedol o asedion cymuned fel bod yr incwm a gynhyrchir yn cael ei gadw’n lleol”. Mae’r rheini sy’n gyfrifol am drefnu a pharatoi’r pamffled yn grediniol ei fod yn cynrychioli’r egni a’r weledigaeth a fynegwyd yn y gweithdai, ac yn cynnig syniad gwahanol o’r dyfodol wedi’i ysbrydoli gan Sel sydd yn un fwy cadarnhaol na’r hyn yr ydym wedi arfer ei glywed am y cymoedd mewn blynyddoedd diweddar.

Ymhlith y cynigion y pamffled ar gyfer y camau nesaf mae:

  • Dychwelyd i’r cymunedau lle cynhaliwyd y gweithdai er mwyn creu cynlluniau gweithredu cymunedol
  • Dod ag aelodau Cymunedoli o ogledd Cymru i gymoedd de Cymru er mwyn ysbrydoli newid
  • Cefnogi rhwydweithiau lleol i ddatblygu cynlluniau gweithredu cymunedol
  • Sefydlu strwythurau llywodraethiant cymunedol
  • Creu rhwydwaith Cymunedoli i’r Cymoedd
  • Datblygu gofynion polisi bydd yn cefnogi rhwydwaith Cymunedoli ffyniannus

Mewn datganiad dywedodd Beth Winter:

“Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o’r fenter hon am eu cyfraniadau amhrisiadwy ac am roi ymdeimlad newydd o obaith ac ysbrydoliaeth i ni. Mae’r daith yr ydym arni yn cryfhau fy nghred ddofn taw mewn cymunedau yw lle mae’r gwir rym a drwy ddod ynghyd fe allwn ac fe wnawn ni adeiladu mudiad llawr gwlad i adeiladu dyfodol mwy gobeithiol a ffyniannus ar gyfer cenedlaethau presennol a rhai’r dyfodol ar draws ein Cymoedd a thu hwnt. Dyfodol lle rydym nid yn unig yn creu cyfoeth ond hefyd yn cadw’r cyfoeth hwnnw oddi fewn i’n cymunedau ar gyfer lles pawb. Dwi’n edrych ymlaen at fynd yn ôl i gymunedau’r cymoedd i weithio ochr yn ochr â phobl er mwyn troi eu syniadau gwych yn weithredoedd.”

Dywedodd Leanne Wood:

“Fe wnaeth y trafodaethau a gynhaliwyd yng nghynulliadau cymunedol y cymoedd danio’r fflam. Mae gan bobl ddealltwriaeth glir o’r gwahaniaeth y gellir ei wneud gan asedau cymunedol sy’n cynhyrchu elw o gymharu â bod yn ddibynnol ar roddion gall fodoli neu beidio. Mae grym mewn eiddo cymunedol a’r ddemocratiaeth sy’n rhan o hynny. Ac mae yna gryfder mewn tynnu ynghyd gyda chymunedau eraill sy’n gwneud gwaith tebyg. Dyma yw’r hyn alwodd Raymond Williams yn ‘annibyniaeth go iawn’. Mae’n gofyn am newid meddylfryd, a gallwn weld y newid hwnnw’n digwydd yn barod. Gallwn wneud pethau ar gyfer ein hunain. Mae rhaid i ni fwrw ymlaen a’i wneud.”

Gallwch ddarllen y pamffled yn ei gyfanrwydd drwy ddilyn y ddolen hon.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This