Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio cronfa o £300,000 i helpu gwyliau bwyd a diod yng Nghymru. Yn ôl datganiad y bwriad yw cynorthwyo gwyliau a digwyddiadau er mwyn hyrwyddo, gwella mynediad at a chynyddu gwelededd bwyd a diod Cymreig. Mae gobaith hefyd y bydd y cynllun yn annog cydweithredu rhwng busnesau lletygarwch a rhai bwyd a diod er mwyn cynyddu faint o gynnyrch Cymreig sy’n ymddangos ar fwydlenni a silffoedd siopau Cymru.
Mewn datganiad dywedodd Lesley Griffiths:
‘Bydd y cynllun grantiau bach hwn yn darparu cymorth i wyliau a digwyddiadau bwyd sydd â syniadau arloesol ar sut i hyrwyddo bwyd a diod o Gymru.
Mae bwyd a diod o Gymru yn mynd o nerth i nerth, gyda llawer o gynnyrch cyffrous, a chynnyrch o ansawdd uchel ar gael. Rwy’n falch o allu cyhoeddi bod y cynllun grantiau bach hwn nawr ar agor, er mwyn cefnogi gwyliau a digwyddiadau i ledaenu’r gair am ansawdd gwych y bwyd a’r diod sydd gennym yma yng Nghymru.
Bydd yn elwa ar y buddion economaidd o ddarparu profiad diwylliannol arbennig, unigryw, o ansawdd uchel i ymwelwyr, yn adeiladu rhwydweithiau ac yn addysgu busnesau.’
Mae’r gronfa ar agor i ddigwyddiadau sy’n cael eu cynnal rhwng 1 Gorffennaf 2023 a 31 Mawrth 2024 ac mae modd i’r rheini sydd â diddordeb wneud cais hyd at 31 Gorffennaf 2023. Gallwch wneud cais drwy ddilyn y ddolen yma.