Ken Skates yn penodi tîm Senedd newydd Llafur Cymru

June 2026 | Polisi gwledig, Sylw

Mae Ken Skates AS, arweinydd dros dro Llafur Cymru, wedi penodi ei dîm Senedd newydd.

Daeth Ken Skates AS yn arweinydd dros dro fis diwethaf, yn dilyn ymddiswyddiad y cyn-brif weinidog Eluned Morgan a fethodd ag ennill sedd. Bydd Llafur Cymru yn cyhoeddi arweinydd parhaol yng nghynhadledd Gymreig y blaid yn Llandudno fis Tachwedd, gyda’r enwebiadau’n agor ym mis Medi. Ar hyn o bryd, does neb y sefyll yn nid oes yn erbyn Ken Skates AS.

Mae gan Lafur Cymru naw sedd yn y Senedd newydd, y tu ôl i Blaid Cymru a Reform UK, ar ôl colli grym yng Nghymru am y tro cyntaf ers sefydlu datganoli yn 1999.

Dywedodd y blaid fod y tîm newydd yn tynnu ar “brofiad helaeth gydag egni a syniadau ffres” ac y byddai’n dwyn y weinyddiaeth Gymreig newydd i gyfrif.

Y penodiadau yn llawn:

– Arweinydd Dros Dro a llefarydd Iechyd, Gofal a Diogelwch Cenedlaethol – Ken Skates AS
– Llefarydd Tai, Cymunedau ac Iechyd Cyhoeddus ac Ataliol – Jayne Byrant AS
– Llefarydd Diwylliant, Chwaraeon, Llywodraeth Leol a Deddfwriaeth – Mike Hedges AS
– Prif chwip a phortffolio sy’n cwmpasu’r Amgylchedd, Ffermio, Ynni a Thrafnidiaeth – Vikki Howells AS
– Rheolwr Busnes a llefarydd Plant, Addysg a Dysgu Gydol Oes – Lynne Neagle AS
– Llefarydd Cyflogaeth, Cydraddoldeb a Thrawsnewid Economaidd – Shav Taj AS
– Llefarydd Cyllid, Democratiaeth, Dinasyddiaeth a’r Iaith Gymraeg – Huw Thomas AS

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This