Mae Julie James, Gweinidog yr Amgylchedd, wedi lansio strategaeth Llywodraeth Cymru i hyrwyddo negeseuon ynghylch newid hinsawdd ymysg y cyhoedd. Gwneir hyn yn enw dysgu pobl yr hyn gallent wneud i fyw bywyd mwy gwyrdd ac i annog newid ymddygiad ar lawr gwlad. Yn ôl James mae yna bwyslais penodol yn y ddogfen ar sicrhau fod ‘dewisiadau gwyrddach yn fwy fforddiadwy ac yn fwy hwylus, ac mae’n dilyn yr egwyddor na ddylid gadael unrhyw un ar ôl’.
Mae’r ddogfen yn cael ei gyhoeddi yn dilyn cyfnod ymgynghorol lle cafwyd trafodaethau gydag amryw o randdeiliaid, ac mae modd darllen adroddiad ynghylch canfyddiadau’r broses honno yma. Mae’r angen am gynllun o’r fath yn dilyn ymrwymiad Llywodraeth Cymru i’w polisi Cymru Sero Net, sydd am weld allyriadau carbon yn cyrraedd sero net erbyn 2050, bydd yn gofyn cydweithrediad a chydsyniad cyhoeddus eang i’w gyflawni. Felly yn ôl y datganiad bydd y rhaglen yn cynnwys ymgyrch genedlaethol newydd fydd yn amlinellu ‘y camau gweithredu sy’n angenrheidiol i fynd i’r afael â newid hinsawdd’.
Gallwch ddarllen y datganiad ysgrifenedig ynghyd a’r Strategaeth Ymgysylltu yn ei gyfanrwydd yma.