Mae Julie James, Gweinidog Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru wedi gosod Bil Seilwaith (Cymru) a’r Memorandwm Esboniadol sydd ynghlwm iddo wedi ei osod gerbron Senedd Cymru.
Dywed James fod Llywodraeth Cymru yn ei weld fel cam pwysig tuag at sicrhau fod prosiectau seilwaith arwyddocaol yn cael eu cyflawni yn amserol yng Nghymru ac yn rhan hanfodol o geisio cyrraedd allyriadau ‘sero net’ erbyn 2050.
Mae’r Bil yn cyflwyno proses gydsynio unedig newydd i Gymru fydd yn berthnasol ar dir a môr tiriogaethol Cymru. Ar hyn o bryd mae’r trwyddedau a’r gofynion cydsynio amrywiol eraill i gyd yn dod o dan gyfundrefnau gwahanol. Y nod yw darparu proses dryloyw, drylwyr a chyson bydd yn caniatáu cymunedau lleol i ddeall yn well ac ymgymryd yn fwy effeithlon a phenderfyniadau sy’n eu heffeithio. Mae Llywodraeth Cymru yn dweud fod yr angen ar gyfer y Bil hwn wedi codi o ganlyniad i Ddeddf Cymru 2017, wnaeth arwain at ddatganoli pwerau pellach ar gyfer cydsyniad ynghylch prosiectau creu ynni, llinellau trydan uwchben , porthladdoedd a gweithfeydd isadeiledd o wahanol fathau.
Mae’r Bil hefyd yn gosod fframwaith ar gyfer prosiectau seilwaith arwyddocaol y mae Gweinidogion Cymru yn gyfrifol am roi cydsyniad iddynt gan gynnwys gorsafoedd cynhyrchu ynni ar y tir a’r môr, rhai llinellau trydan sy’n cysylltu’r gorsafoedd hyn ynghyd a gwaith ar briffyrdd a rheilffyrdd a gweithfeydd trin dŵr gwastraff hefyd.
Bydd James yn gwneud datganiad llafar ger bron y Senedd ar ddydd Mawrth 13 o Fehefin er mwyn amlinellu manylion pellach ynghylch nodau, amcanion a chynnwys y Bil.
Mae modd darllen y Bil, y Memorandwm ynghyd a’r datganiad llawn yma.