Jack Sargeant yn galw ar y cyhoedd i adrodd ymddygiad amheus ar safleoedd hanesyddol

September 2025 | Sylw

Mae’r Gweinidog Diwylliant, Jack Sargeant AS wedi galw ar aelodau’r cyhoedd i fod yn wyliadwrus o ymddygiad amheus ar safleoedd hanesyddol a threftadaeth yn dilyn achosion diweddar o fandaliaeth a throseddau treftadaeth. Mae yna ystod o weithgareddau anghyfreithlon sy’n cwmpasu troseddau treftadaeth, ac yn ôl y gweinidog maent yn rhoi henebion, cestyll ac adeiladau rhestredig mewn perygl.

Daw’r alwad yn dilyn adroddiadau diweddar yn y wasg ynghylch cynnydd yn yr achosion o ddefnydd o synwyryddion metel ar safleoedd gwarchodedig heb ganiatâd. Mewn datganiad dywedodd Jack Sargeant:

“Mae troseddau treftadaeth yn fwy na fandaliaeth – mae’n gwneud inni golli ein hanes. Ond gall adrodd amdano helpu i ddiogelu gorffennol Cymru ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, felly byddwn yn annog y cyhoedd i fod yn wyliadwrus.

Ers dechrau’r flwyddyn, mae ceidwaid Cadw mewn sawl safle wedi gorfod rhoi gwybod am achosion o ddifrod troseddol i’r heddlu sydd wedi arwain at safleoedd yn cael eu cau’n rhannol i’r cyhoedd, costau ychwanegol a gwaith cadwraeth a oedd wedi’i gynllunio yn cael ei ohirio i flaenoriaethu gwaith atgyweirio.”

Ymhlith y safleoedd sydd wedi gweld digwyddiadau o’r fath yw Abaty Castell-nedd. Yn gynt yn y flwyddyn cafodd arwyddion eu difrodi a’r tir ei ddifrodi wedi i dresmaswyr ddefnyddio’r safle fel trac beiciau. Mewn digwyddiad arall, torrwyd ffenestri i’r is-grofft a difrodwyd a dinistriwyd paneli arddangosfa nad oedd wedi agor eto.

Roedd rhaid cau Todd-dŷ Gwaith Haearn Blaenafon i’r cyhoedd yn ddiweddar ar ôl i arddangosfa gael ei fandaleiddio. Ym Marics Caerllion, mae Cadw wedi adrodd ystod o enghreifftiau o ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ddiweddar gan gynnwys graffiti, dinistrio gwaith brics Rhufeinig, llosgi beic modur ar y safle a difrod i’r gwaith maen sydd wedi gofyn gwaith atgyweirio brys.

Diffinnir troseddau treftadaeth fel unrhyw weithgaredd anghyfreithlon sy’n niweidio asedau hanesyddol. Gall hyn gynnwys dwyn, difrod bwriadol, gwneud gwaith anawdurdodedig ar henebion neu adeiladau cofrestredig, canfod metel yn anghyfreithlon neu ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae Llywodraeth Cymru a Cadw yn galw ar y cyhoedd i adrodd unrhyw achosion y maent yn dyst iddo neu’n amau i fod yn digwydd i’r heddlu gan hefyd roi gwybod am ddifrod penodol i Cadw os yw’n ymwneud a heneb gofrestredig drwy ddilyn y ddolen hon.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This