Hyfforddiant Agri-Start ar gael am ddim i drigolion hyd at 40 oed sydd yn byw ym Mhowys

Medi 2024 | Sylw

Cyhoeddwyd yr wythnos hon bod rhaglen hyfforddiant achrededig llwyddiannus ar gyfer rheini nad ydynt o gefndiroedd amaethyddol, wedi ei deilwra i ddarparu hyfforddiant mewn amaethyddiaeth, coedwigaeth a garddwriaeth, yn cael ei ehangu i gynnwys trigolion ym Mhowys hyd at 40 mlwydd oed.

Mae’r rhaglen Agri-Start yn cael ei weinyddu gan Lantra Cymru ac wedi ei ariannu gan Lywodraeth y DU drwy’r Gronfa Ffyniant Gyffredin ac yn cael ei gefnogi gan Gyngor Sir Powys. Mae’r rhaglen, a lansiwyd yn gynharach eleni, yn cynnig cyrsiau wedi eu hariannu’n llwyr drwy rwydwaith Gwobrau Lantra mewn ystod eang o sgiliau sector gweithio’r tir, o yrru tractor a cherbydau pob tirwedd, i reoli coetiroedd a thrin da byw.

Wrth drafod y cyhoeddiad dywedodd Sarah Lewis, Dirprwy Gyfarwyddwr Cymru Lantra Cymru:

‘Rydym wrth ein boddau fod rhaglen mor allweddol sydd wedi ei anelu at gefnogi cynnydd mewn hyfforddiant achrededig yn sector gweithgareddau’r tir nawr yn gallu cael ei gynnig i grŵp ehangach o drigolion Powys. Os oes gen ti ddiddordeb mewn datblygu gyrfa mewn amaethyddiaeth, coedwigaeth neu arddwriaeth, mae hyfforddiant achrededig am ddim ar gael. Dwi’n annog pawb sydd â diddordeb i gysylltu drwy wales@lantra.co.uk i ddysgu mwy dros yr wythnosau nesaf.’

Un o’r rheini a dderbyniodd hyfforddiant yn ddiweddar yw Seren Cook o Lanfair-ym-muallt sydd newydd gwblhau ei chwrs achrededig cerbyd pob tirwedd am ddim. Mae Seren, sy’n 16 mlwydd oed o Lanfair-ym-muallt ym Mhowys, wedi cymryd mantais o’r cynnig Agri-Start. Llwyddodd i gwblhau’r cwrs ymarferol undydd rhwng ei hastudiaethau yn y coleg chweched dosbarth.

Er i nifer o’r cyrsiau hyfforddiant ddal ei sylw, penderfynodd ddechrau ei thaith cyrsiau achrededig, dan faner y rhaglen Agri-Start sy’n cael ei redeg gan Lantra Cymru, gyda chwrs cerbyd pob tirwedd wedi ei ddarparu gan Wasanaethau Jimmy Hughes.

Roedd y cwrs yn un o nifer oedd ar gael i drigolion Powys wedi ei anelu at rheini nad ydynt o gefndiroedd ffermio, o reoli coetiroedd, i reoli cnofilod, yr holl ffordd i gadwraeth a chynaladwyedd.

Daliodd y cwrs cerbydau pob tirwedd ei sylw gan ei fod wedi ei ddylunio’n arbennig i ddarparu achrediad i’r rheini dan hyfforddiant mewn ystod eang o feysydd cerbydau pob tirwedd o iechyd a diogelwch, gyrru ar draws gwahanol dirweddau, i sut i dynnu nwyddau trymion yn ddiogel ar ac i ffwrdd o’r Cwad.

Mae pob cwrs sydd ar gael drwy Agri-Start yn cael ei darparu drwy rwydwaith gwobrau dibynadwy Lantra gyda Gwasanaethau Jimmy Hughes yn arbenigwyr ar gynnig y math hwn o hyfforddiant yn sector diwydiannu’r tir.

Er ei bod yn ddyddiau cynnar ers iddi gwblhau’r cwrs, mae Seren yn gweld budd yn barod. Dywedodd:

‘Dwi’n sicr yn fwy hyderus nawr wrth wneud ystod o weithgareddau cerbyd pob tirwedd – o dynnu llwythau trymion i yrru a’r dirwedd fwy heriol. Er oedd gennyf beth dealltwriaeth o flaen llaw o yrru Cwad mae’r cwrs hwn yn bendant wedi gwella fy sgiliau, fy niogelwch wrth ddefnyddio cerbydau pob tirwedd ynghyd a sicrhau fy mod yn achrededig rhag ofn bod angen i fi ei ddefnyddio mewn unrhyw gyd-destun gwaith yn y dyfodol.’

Roedd y mynychwyr ar y diwrnod o bob oedran, gallu a phrofiad ac roedd y dysgu’n cynnwys elfennau theori ac ymarferol. Gyda Agri-Start wedi ei ffocysu’n arbennig ar y rheini o gefndiroedd nad ydynt yn ffermio mae’r cyrsiau hefyd yn darparu llwybr i mewn i waith tir i’r rheini oedd yn mynychu sydd ag achrediad ar gyfer y sgiliau allweddol rheiny sydd eu hangen yn y sector.

Gyda’r cwrs hwn nawr wedi ei gwblhau mae hi’n bwrw ei golwg tuag at gwblhau cyrsiau Agri-Start eraill am ddim cyn diwedd y rhaglen yn 2024 ac yn ‘annog eraill i gymryd mantais o’r pecyn cymorth hwn i’r rheini sy’n byw ym Mhowys.’

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This