Hybu Cig Cymru yn annog ffermwyr i gymryd rhan mewn arolwg cig coch

Medi 2024 | O’r pridd i’r plât, Polisi gwledig, Sylw

Mae Hybu Cig Cymru wedi annog ffermwyr i leisio’i barn fel rhan o arolwg sy’n edrych ar yr heriau mae’r diwydiant cig coch yn ei wynebu ar hyn o bryd yng Nghymru. Nod yr ‘Holiadur Bwriadau Ffermwyr’ yw deall effaith yr heriau hyn ar fusnesau ffermio yng Nghymru a gwella dealltwriaeth Hybu Cig Cymru o gynlluniau busnes aelodau’r diwydiant er mwyn siapio trafodaethau sydd i ddod.

Mewn datganiad dywedodd Glesni Phillips, Swyddog Gweithredol Gwybodaeth, Dadansoddi a Mewnwelediad Busnes HCC:

‘Mae cynnydd mewn chwyddiant a chynnydd mewn costau mewnbynnau wedi bod yn gryn her i’r sector amaethyddol yn y blynyddoedd diwethaf ac wedi achosi cymhlethdodau i ffermwyr Cymru wrth geisio gwneud penderfyniadau. Er mwyn gallu deall y problemau yma’n well, rydym ni wedi creu holiadur i asesu’r sefyllfa fel mae hi rŵan.

Dyma’r trydydd ‘Holiadur Bwriadau Ffermwyr’ i ni yn HCC ei gynnal. Mae’n ein galluogi i gasglu gwybodaeth gyfredol a llunio darlun ar draws y sector o’r heriau sy’n wynebu ffermwyr a sut maen nhw’n amrywio o flwyddyn i flwyddyn.

Dangosodd canlyniadau’r holiadur cyntaf bod pryderon yn ymwneud â chostau mewnbynnau yn uchel, ac roedd pryder y byddai cyfraddau sganio isel, o ganlyniad i’r tywydd garw, yn cael effaith ar niferoedd y diadelloedd yn y flwyddyn ganlynol.

Er hynny, dangosodd canlyniadau holiadur y llynedd bod y pwysau ar niferoedd o fewn diadelloedd Cymru wedi codi rhywfaint, a bod pryderon ffermwyr am gostau uchel mewnbynnau wedi cilio. Roedd gwelliant sylweddol ym mwriadau cynhyrchwyr.

Er mwyn parhau â’r ymchwil yma, fe hoffem ni weld ffermwyr dros Gymru yn cwblhau’r holiadur newydd fel y gallwn ystyried yr heriau diweddaraf o fewn y sector ac ystyried sut mae bwriadau ffermwyr yn debygol o effeithio ar y dyfodol. Bydd hyn yn ein helpu ni, a’r sector yn ehangach, i baratoi a chynhyrchu rhagolygon am y flwyddyn i ddod ar lefel stocio a’r cyfaint o gig coch fydd ar gael i gwsmeriaid.’

Mae cyfle i’r rheini sydd yn cymryd rhan yn yr arolwg ennill taleb gwerth £50 ar gyfer prynu cig. Mae’r arolwg ar lein ar agor nes 23 Medi 2024 ac mae modd ei gwblhau drwy ddilyn y ddolen hon.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This