Hwb Menter Gwynedd ac Ynys Môn yn hysbysebu pecyn cymorth busnes

Gorffennaf 2024 | Arfor, Sylw

boat on water near bridge

Mae Hwb Menter Gwynedd ac Ynys Môn, prosiect gan Menter Môn, yn hysbysebu i unigolion sydd am ddechrau busnes yno y gallu i wneud cais ar gyfer pecyn cymorth gwerth hyd at £2,500.

Nod y pecyn cymorth yw darparu cefnogaeth ymarferol a chymorth ariannol i unigolion sy’n dechrau busnes er mwyn helpu iddynt fynd i’r afael a’r heriau cychwynnol y maent yn ei wynebu wrth ddechrau masnachu. Ynghyd a chymorth ariannol bydd modd i bob ymgeisydd gael mynediad at sesiynau cyngor arbennig, i fynychu digwyddiadau rhwydweithio ac i fod yn rhan o weithdai gwybodaeth er mwyn datblygu sgiliau busnes allweddol. Bydd y rhain yn cynnwys trafodaethau ynghylch cynllunio busnes, trefniannau ariannol, y gyfraith wrth weithredu busnes, ynghyd a brandio a marchnata ymhlith nifer o bynciau eraill.

Mae angen i ymgeiswyr fod yn byw yng Ngwynedd neu Ynys Môn, dros 16 mlwydd oed, yn bwriadu cychwyn menter newydd. I ddysgu mwy am ofynion y cynnig hwn, ynghyd a’r mathau o geisiadau gellir eu gwneud a sut i wneud cais, dilynwch y ddolen hon i wefan Hwb Menter.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Cofrestrwch i dderbyn ein bwletin newyddion

Cofrestrwch heddiw os hoffech dderbyn ebost rheolaidd yn cynnwys erthyglau diweddaraf Arsyllfa.

Choose a language

Llwyddiant!

Share This