Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Strategaeth Addasu i’r Hinsawdd Cymru 2024 sy’n amlinellu dulliau o fynd ati i fynd i’r afael ag effeithiau ac achosion newid hinsawdd. Mae’r ddogfen yn amlinellu’r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud yn barod i wynebu heriau newid hinsawdd ac yn esbonio cynlluniau sydd ganddynt ar gyfer y dyfodol. Daw cyhoeddiad y ddogfen wrth i arweinwyr ddod ynghyd i drafod bioamrywiaeth yng nghynhadledd COP16 Cali yng Ngholombia’r wythnos hon.
Mae’r strategaeth yn trafod amrywiaeth o bynciau a themâu megis y cynllun i bob rhan o’r llywodraeth i gydweithio gyda’i gilydd i fynd i’r afael a’r her, y bwriad i ddiogelu rhwydweithiau trafnidiaeth bregus rhag difrod yn sgil tywydd eithafol ynghyd a’r amcan i weithio ar y cyd gyda Llywodraeth y DU i sicrhau gwytnwch a diogelwch cyflenwad bwyd. Nodir y buddsoddiad o £75m mewn amddiffynfeydd llifogydd, ynghyd a’r ymrwymiad i ddiogelu 30% o dir, dŵr croyw ac ardaloedd morol yn effeithiol erbyn 2030.
Mewn datganiad, dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog, Huw Irranca-Davies:
‘Newid hinsawdd yw un o’r bygythiadau mwyaf, cyflymaf a mwyaf parhaol sy’n wynebu dynoliaeth.
Rydym eisoes yn gweld effeithiau newid hinsawdd gyda gaeafau gwlypach, hafau cynhesach a phatrymau tywydd mwy anrhagweladwy.
Bydd yr elfennau hyn yn dod fwyfwy i’r amlwg dros y blynyddoedd a’r degawdau nesaf.
Mae’r heriau o gyrraedd sefyllfa sero net ac addasu i newid hinsawdd yr un mor bwysig a thaer â’i gilydd.
Bwriad y strategaeth hon yw ymhelaethu ar y drafodaeth ynghylch addasu ac ysgogi pob un ohonom i achub ar y cyfleoedd, gan ddiogelu ein pobl a’n planed ar yr un pryd.’
Mae’r ddogfen yn amlinellu mwy na 240 o gamau gweithredu gan Lywodraeth Cymru, gan hefyd bwysleisio’r rôl sydd gan sefydliadau a chyrff cyhoeddus i’w chwarae i sicrhau gwytnwch yn wyneb newid hinsawdd. Mae Llywodraeth Cymru yn gweld y rhan sydd gan bartneriaid megis Cyfoeth Naturiol Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Awdurdodau Lleol a Byrddau Gwasanaeth Cyhoeddus i’w chwarae yn allweddol i sicrhau llwyddiant.
Dywedodd Huw Irranca-Davies:
‘Mae gan Lywodraeth Cymru rôl bwysig o ran addasu i newid hinsawdd, ond ni allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain.
Mae’r strategaeth hon yn cydnabod y gwaith pwysig a wneir gan ein partneriaid cyflawni hefyd.
Bydd yr hyn a wneir gan gymunedau, mudiadau’r sector gwirfoddol, busnesau ac eraill yn allweddol o ran rheoli newid hinsawdd.
Mae newid hinsawdd yn cyflwyno llawer o heriau anodd, cymhleth ac mae llawer mwy i’w wneud o hyd ond rwy’n gobeithio y bydd y strategaeth newydd hon a gyhoeddir heddiw yn gatalydd ar gyfer gweithredu.’
Mae modd darllen y strategaeth yn ei gyfanrwydd drwy ddilyn y ddolen hon.